Prosiectau Daearyddiaeth a'r Amgylchedd
Cliciwch ar y crynodebau isod er mwyn cael mwy o wybodaeth ynglŷn â'r prosiectau unigol.
Prifysgol Bangor
£10,000
AMG11/01
Derbyniodd Prifysgol Bangor nawdd i ddatblygu’r modiwl ‘Methodoleg Gwaith Maes’ a chreu casgliad o ddeunyddiau dysgu atodol, fel bod modd cyflwyno’r modiwl yn gydweithredol ar ffurf penwythnos o ddysgu dwys.
Prifysgol Aberystwyth
£2,000
AMG10/01
Derbyniodd Prifysgol Aberystwyth nawdd i ddiweddaru eu modiwl ar Geomorffoleg Afonol.
Prifysgol Bangor
£16,500
AMG09/02
Derbyniodd Prifysgol Bangor nawdd i greu modiwl israddedig newydd i’w gyflwyno i fyfyrwyr gwyddoniaeth naturiol yn Ysgol Gwyddorau Eigion y brifysgol. Penderfynwyd datblygu’r modiwl er mwyn ceisio cynyddu nifer y graddedigion sydd â’r sgiliau i feddwl a gweithio’n wyddonol yn hyderus drwy gyfrwng y Gymraeg.
Prifysgol Aberystwyth
£14,970
AMG09/04
Derbyniodd Prifysgol Aberystwyth nawdd i greu deunydd sydd yn cyflwyno enghreifftiau o sut y gellid defnyddio System Gwybodaeth Ddaearyddol (SGDd) er mwyn integreiddio technegau ystadegol wrth fynd ati i gynllunio a chwblhau traethawd ymchwil. Mae’r adnodd yn cynnwys cyngor ynglŷn â’r ffyrdd gorau o fynd ati i gasglu, arddangos a thrin data mewn modd ystadegol, cyn mynd ymlaen i gyrraedd casgliad.
Prifysgol Bangor
£20,000
AMG09/06
Derbyniodd Prifysgol Bangor nawdd i ddatblygu pedwar modiwl newydd ar gyfer y cwrs meistr mewn Rheolaeth Amgylcheddol Gynaliadwy.
Prifysgol Bangor
£20,000
AMG08/01
Derbyniodd Prifysgol Bangor nawdd i ddatblygu cynllun gradd meistr cyfrwng Cymraeg mewn Rheolaeth Amgylcheddol Gynaliadwy.
Prifysgol Aberystwyth
£7,000
AMG08/02
Derbyniodd Prifysgol Aberystwyth nawdd i ddatblygu dau fodiwl cyfrwng Cymraeg newydd (ar gyfer eu cyflwyno’n gydweithredol) ym maes Daearyddiaeth Ddynol.
Prifysgol Bangor
£9,000
AMG08/03
Derbyniodd Prifysgol Bangor nawdd i ddatblygu’r modiwl ‘Methodoleg Gwaith Maes’ a chreu casgliad o ddeunyddiau dysgu atodol, fel bod modd cyflwyno’r modiwl yn gydweithredol ar ffurf penwythnos o ddysgu dwys.
Prifysgol Aberystwyth
£7,000
AMG08/04
Derbyniodd Prifysgol Aberystwyth nawdd i ddiweddaru’r modiwl ‘Amgylcheddau Cymru’, fel bod modd ei gyflwyno fel modiwl opsiynol mewn nifer o sefydliadau. Yn ogystal â diweddaru cynnwys y modiwl, datblygwyd casgliad o adnoddau newydd i gyd-fynd â’r cwrs.
Prifysgol Aberystwyth
£19,000
AMG08/05
Derbyniodd Prifysgol Aberystwyth nawdd i baratoi esboniadau ac adnoddau perthnasol ar gyfer termau daearyddol.