Prosiectau'r Gyfraith

Cliciwch ar y crynodebau isod er mwyn cael mwy o wybodaeth ynglŷn â'r prosiectau unigol.
Gyfraith
Prifysgol Morgannwg
£1250
CYF11/01

Derbyniodd Prifysgol Morgannwg nawdd i barhau i gynnig y modiwl cydweithredol 'Y Gyfraith yn Gymraeg' i fyfyrwyr yr ail flwyddyn ym Morgannwg, mewn cydweithrediad â Phrifysgolion Aberystwyth a Bangor. Mae’r modiwl hwn wedi cael ei redeg yn llwyddiannus ar ffurf cydweithredol rhwng y prifysgolion ers 2009 (gweler: Hyfforddiant Ieithyddol).

Barnwr
Prifysgol Aberystwyth
£5766.65
CYF11/02

Derbyniodd Prifysgol Aberystwyth nawdd i gynnal ymryson rhyng-golegol, yn dilyn llwyddiant ymryson a gynhaliwyd yn 2011.

 

Prifysgol Aberystwyth
£6,448.36
CYF10/01
Derbyniodd Prifysgol Aberystwyth nawdd i sefydlu cystadleuaeth ymryson ryng-golegol, er mwyn meithrin y gallu i ymdrin â deunyddiau cyfreithiol drwy gyfrwng y Gymraeg ymysg myfyrwyr.
cyfrifiaduron
Prifysgol Caerdydd
£32,133
CYF09/01

Derbyniodd Prifysgol Caerdydd nawdd i gyfieithu gwefan Deddfwriaeth Cymru Ar-lein (http://www.wales-legislation.org.uk/). Amcan y wefan honno yw i esbonio hyd a lled pwerau gweithredol Llywodraeth Cynulliad Cymru, ac i gyflwyno manylion ynglŷn â’r math o ddeddfau a’r mesurau y mae’r llywodraeth hwnnw yn ymwneud â hwy.

bwrdd-du
Prifysgol Bangor
£12,000
CYF08/01
Derbyniodd Prifysgol Bangor nawdd i ddatblygu modiwl hyfforddiant ‘Y Gyfraith yn Gymraeg’, sy’n cyplysu sgiliau ieithyddol gyda sgiliau ymchwil cyfreithiol sylfaenol, er mwyn annog myfyrwyr i fynd ati i gyflwyno eu gwaith – ac i astudio yn fwy cyffredinol – drwy gyfrwng y Gymraeg. Y tu hwnt i hynny, ystyriwyd y byddai datblygu modiwl o’r math yma hefyd yn gymorth o ran annog myfyrwyr Cymraeg eu hiaith i barhau i ddefnyddio eu mamiaith yn hyderus wrth iddynt fynd ati i ddatblygu gyrfaoedd mwy hirdymor ym myd y Gyfraith wedi iddynt raddio.
llyfrgell
Prifysgol Bangor
£6,600
CYF08/03

Derbyniodd Prifysgol Bangor nawdd i argraffu a chyhoeddi Geiriadur Termau’r Gyfraith, sef cyfrol a ddatblygwyd er mwyn mynd i’r afael â’r diffyg adnoddau cyfrwng Cymraeg oedd ar gael ar gyfer myfyrwyr sy’n astudio’r Gyfraith. Cyhoeddwyd mil o gopïau o’r geiriadur gan wasg Prifysgol Bangor ym mis Awst 2008, a chroesawyd ei ddyfodiad gan academyddion, myfyrwyr a chyfreithwyr trwy Gymru gyfan.

nyrsio-126x126
Prifysgol Aberystwyth
£5,000
CYF08/06

Derbyniodd Prifysgol Aberystwyth nawdd i gyfieithu erthyglau ar gyfer defnydd myfyrwyr a darlithwyr sy’n ymwneud â’r modiwl ‘Cyfraith Gofal Iechyd’, sef modiwl cydweithredol sy’n cael ei gynnal ar y cyd gan brifysgolion Aber a Bangor.

llyfrgell2
Prifysgol Abertawe
£30,000
CYF08/08

Derbyniodd Prifysgol Abertawe nawdd i greu cyfrol brintiedig ar y testun Cyfraith ac Iaith. Bydd y gyfrol – a fydd yn cael ei chyhoeddi ym mis Mai 2011 – yn ffocysu’n benodol ar y modd y gellir defnyddio cyfreithiau er mwyn datblygu, cynnal a gwarchod ieithoedd lleiafrifol ac amddiffyn buddiannau siaradwyr yr ieithoedd hynny. Bwriedir cynnwys adrannau a fydd yn trafod y pwnc hwn mewn cyd-destunau Cymreig, Prydeinig, Ewropeaidd a Byd-Eang.