Prosiectau Iechyd a Gofal

Cliciwch ar y crynodebau isod er mwyn cael mwy o wybodaeth ynglŷn â'r prosiectau unigol.
Prawf Llygaid
Prifysgol Caerdydd
£4500
NYR11/01

Derbyniodd Prifysgol Caerdydd nawdd i gynyddu darpariaeth Gymraeg yn y maes Optometreg.

Nyrsio
Prifysgol Morgannwg
£36,600
NYR11/02

Derbyniodd Prifysgol Morgannwg nawdd i gynyddu darpariaeth a datblygu adnoddau cysylltiol ym maes Nyrsio.

cyfarfod rhwng oedolyn a phlentyn
Prifysgol Morgannwg
£4,900
NYR10/01

Derbyniodd Prifysgol Morgannwg nawdd i greu DVD yn olrhain hanes cynhadledd achos ynglŷn â gwarchod plant. Gall y DVD gael ei ddefnyddio ar gyfer addysgu ym meysydd Nyrsio, Bydwreigiaeth, Astudiaethau Heddlu, Astudiaethau Iechyd a Gwaith Cymdeithasol.

stiwdio
Prifysgol Caerdydd
£10,871
NYR09/01

Derbyniodd Prifysgol Bangor nawdd i ddatblygu adnodd aml gyfrwng yn ymwneud â maes anabledd dysgu. Bwriedir defnyddio'r adnodd i fagu dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth sylfaenol o’r maes hwnnw ymysg myfyrwyr, a’u hannog i drafod cysyniadau anabledd dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.

Nyrs â laptop
Prifysgol Caerdydd
£3,500
NYR09/04

Derbyniodd Prifysgol Caerdydd nawdd i greu cwrs peilot ar gyfer myfyrwyr Ysgol Nyrsio a Bydwreigiaeth Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Morgannwg.

darlith
Prifysgol Bangor
£19,904
NYR08/01
Derbyniodd Prifysgol Bangor nawdd i gynnal astudiaeth a fyddai’n darparu trosolwg o’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg a dwyieithog mewn addysg nyrsio. Yn ogystal â chynnig trosolwg o’r sefyllfa bresennol – gan gydweithio gyda rhanddeiliaid allweddol – aethpwyd ati i amlinellu cynlluniau ar gyfer creu strategaeth genedlaethol i ddatblygu’r ddarpariaeth yn y dyfodol.