Prosiectau cenedlaethol

Beth yw prosiect cenedlaethol?

Cafodd y Gronfa Datblygiadau Strategol a Phrosiectau ei sefydlu er mwyn cefnogi prosiectau academaidd a fyddai'n gallu cyfrannu mewn ffordd arwyddocaol at ddarpariaeth addysg uwch cyfrwng Cymraeg. Yn flynyddol, mae cyfran o’r gronfa yn cael ei neilltuo ar gyfer prosiectau strategol cenedlaethol. Ar hyn o bryd, y prosiectau o fewn y categori hwn yw’r e-gyfnodolyn Gwerddon a phrosiect Canolfan Edward Llwyd a leolir ym Mhrifysgol Aberystwyth, a’r prosiect Termau Addysg Uwch a leolir yng Nghanolfan Bedwyr, Prifysgol Bangor.