Gwerddon

Ers nifer o flynyddoedd bu'n freuddwyd i weld cynnydd sylweddol ym maes ymchwil cyfrwng Cymraeg ar draws y gymuned academaidd. Fel rhan o'r ymdrech i hyrwyddo statws yr iaith o fewn addysg uwch, ystyriwyd ei bod yn hanfodol bwysig i hybu’r defnydd o’r Gymraeg fel cyfrwng ymchwil. I’r perwyl hwnnw, penderfynwyd sefydlu cyfnodolyn academaidd a fyddai'n fforwm ar gyfer cyhoeddi gwaith ysgolheigaidd cyfrwng Cymraeg ar draws y Celfyddydau, y Dyniaethau a’r Gwyddorau. Cyhoeddwyd y rhifyn cyntaf o Gwerddon ym mis Ebrill 2007. Mae Gwerddon yn gydnaws â gofynion y ‘Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil’ (REF) ac yn gweithredu cyfundrefn arfarnu annibynnol yn ogystal ag arddel y safonau golygyddol uchaf.

Yn ogystal â bod yn e-gyfnodolyn traws-ddisgyblaethol, mae Gwerddon hefyd yn gwasanaethu ystod eang iawn o sefydliadau addysg uwch yng Nghymru a thu hwnt. Cynrychiolir nifer o sefydliadau addysg uwch Cymru ar Fwrdd Golygyddol Gwerddon. Golygir Gwerddon gan yr Athro Ioan Williams.

Gwerddon
Ymwelwch รข gwefan Gwerddon i weld y rhifyn diweddaraf.