Swyddogion Prosiect Pynciol

Ariennir amrediad eang o brosiectau i atgyfnerthu a chyfoethogi profiadau myfyrwyr sydd yn astudio yn y Gymraeg. Mewn rhai achosion darperir cyllid i ariannu swyddogion prosiect sy'n gyfrifol am hwyluso gweithgaredd mewn meysydd penodol gyda'r nod o ehangu darpariaeth a chyfleoedd astudio.

Ar hyn o bryd mae tri swyddog pynciol yn arwain ar brosiectau mewn meysydd academaidd penodol, sef: Cerddoriaeth, Hanesyddiaeth, a’r Gymraeg fel pwnc.