Mae Cynllun Ysgoloriaethau Ymchwil y Coleg yn darparu nawdd ariannol sylweddol i ddarpar-academyddion sydd yn astudio ar gyfer doethuriaeth. Y tu hwnt i hyn, mae deiliaid yr ysgoloriaethau yma hefyd yn derbyn hyfforddiant mewn sgiliau ymchwil ac yn magu profiad addysgu trwy gyfrannu at fodiwlau israddedig trwy gyfrwng y Gymraeg.
Cyllidwyd y cynllun hwn am y tro cyntaf yn 2005-06 gyda'r nod hirdymor o esgor ar genhedlaeth newydd o ddarlithwyr cyfrwng Cymraeg mewn ystod eang o feysydd academaidd. Dr Hywel Griffiths o’r Sefydliad Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear ym Mhrifysgol Aberystwyth oedd y deiliad cyntaf i gael ei benodi i swydd ddarlithio llawn-amser yn dilyn Ysgoloriaeth Ymchwil, a hynny yn Hydref 2009.
Lansiwyd Cynllun Ysgoloriaethau Ymchwil newydd ar 1 Mawrth 2013. Bydd deiliaid yr Ysgoloriaethau Ymchwil yn derbyn nawdd am dair blynedd sy’n gyfwerth ag ysgoloriaethau ôl-raddedig Cynghorau Ymchwil y DU (RCUK). Dyfernir hyd at ddeg Ysgoloriaeth Ymchwil newydd bob blwyddyn.
Ceir gwybodaeth lawn am sut mae ymgeisio am un o Ysgoloriaethau Ymchwil y Coleg ar y tudalennau cyllido.