Newyddion
Ceir yma ddatganiadau newyddion y Coleg Cymraeg Cenedlaethol gan gynnwys archif o erthyglau. Rydyn ni hefyd o bryd i’w gilydd yn cyhoeddi erthyglau sydd yn ymwneud â phrosiectau cydweithredol a weithredir o fewn y sefydliadau addysg uwch yng Nghymru. Os hoffech wybod mwy am unrhyw stori sydd yn ymddangos yn yr adran hon cysylltwch â’r Rheolwr Cyfathrebu, Rebecca Griffiths ar 0844 800 7375.
2 Mai 2013
I ddathlu Diwrnod Rhyngwladol Rhyddid y Wasg, bydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn lansio prosiect arloesol newydd, Botwm y Byd, yng Nghanolfan Materion Rhyngwladol Cymru, Y Deml Heddwch, Caerdydd, ar y 3 Mai rhwng 12.30 a 1.30pm
18 Ebrill 2013
Marwolaeth cynamserol gwyddonydd ifanc yn ergyd enbyd i ddarpariaeth bioleg trwy gyfrwng y Gymraeg yn y brifysgol.
15 Ebrill 2013
Ar y 15fed o Ebrill, fe gyhoeddir y rhifyn diweddaraf o gyfnodolyn ymchwil y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Gwerddon. Mae Rhifyn 14 yn cynnwys erthyglau o feysydd amrywiol yn y dyniaethau a’r celfyddydau.
4 Ebrill 2013
Y corff dynol o safbwynt y Cymry – cyfres newydd ar S4C.
1 Mawrth 2013
Ddoe (Chwefror 28) cyhoeddwyd Rhifyn 13 o Gwerddon, cyfnodolyn ymchwil y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae’n rhifyn arbennig sy’n canolbwyntio ar erthyglau yn y Gwyddorau caled.
27 Chwefror 2013
Yn ei ail Gynulliad Blynyddol yn Aberystwyth ar 26 Chwefror, urddwyd yr Athro Robin Williams, yr Athro Ioan Williams a Dr John Davies yn Gymrodyr Er Anrhydedd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
14 Chwefror 2013
Heddiw (14 Chwefror 2013) cyhoeddodd Prifysgol Caerdydd ei bod yn creu pum swydd ddarlithio cyfrwng Cymraeg newydd sydd wedi eu cyllido gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
23 Ionawr 2013
Nos Wener yma (25ain o Ionawr), bydd canghennau’r Coleg ym mhrifysgolion y brifddinas– yn dod at ei gilydd i ddathlu diwrnod Santes Dwynwen gyda gig arbennig yng Nghlwb Ifor Bach.
8 Ionawr 2013
Heddiw (8 Ionawr 2013) cyhoeddir mai’r Dr Hywel Griffiths o Sefydliad Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear, Prifysgol Aberystwyth, yw is-olygydd newydd Gwerddon, cyfnodolyn y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
19 Rhagfyr 2012
Mae’r Sefydliad Mathemateg a Ffiseg ym Mhrifysgol Aberystwyth yn dathlu blwyddyn arbennig iawn o ran recriwtio. Nid yn unig mae’r Sefydliad wedi recriwtio mwy na’r arfer i astudio Mathemateg a Ffiseg, mae’r niferoedd sy’n astudio elfennau o’r pynciau drwy gyfrwng y Gymraeg y gorau erioed.
6 Rhagfyr 2012
Mewn seremoni arbennig yn ddiweddar dyfarnwyd prif wobr y gynhadledd ‘Legal Wales 2012’ i ddau fyfyriwr ôl-radd cyfrwng Cymraeg yn Y Gyfraith sydd, mewn gwahanol ffyrdd, yn weithgar iawn gyda’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
28 Tachwedd 2012
Lowri Morgan, Cymrawd Anrhydeddus Prifysgol Abertawe fydd yn agor digwyddiad cyntaf Cangen Prifysgol Abertawe o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, ar brynhawn Mercher 5 Rhagfyr 2012.
13 Tachwedd 2012
Yn dilyn nawdd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol cynhaliwyd cynhadledd amlddisgyblaethol ar 16 a 17 Tachwedd ym Mhrifysgol Bangor a oedd yn ffocysu ar wahanol elfennau o ymgyrchu iaith. Trefnwyd y gynhadledd ar y cyd gan Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor, a Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru, Prifysgol Aberystwyth.
31 Hydref 2012
Ddechrau Hydref eleni fe gynhaliwyd cynhadledd ymchwil amlddisgyblaethol ar y thema ' Y Ferch Greadigol', yn Ysgol Cerddoriaeth Prifysgol Bangor. Noddwyd y gynhadledd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol o dan y Cynllun Datblygu Cerddoriaeth.
25 Hydref 2012
Daeth Darlithwyr a myfyrwyr Ieithoedd Modern Tramor Prifysgolion Bangor, Aberystwyth, Abertawe a Chaerdydd at ei gilydd dros y penwythnos i gael blas ar astudio Ieithoedd drwy gyfrwng y Gymraeg.
16 Hydref 2012
I ba raddau y mae galw am addysgu Archaeoleg drwy gyfrwng y Gymraeg mewn prifysgolion? Dyna un o’r cwestiynau a fydd yn cael ei ystyried fel rhan o Ysgol Undydd ym Mhrifysgol Bangor ar ddydd Sadwrn 27 Hydref.
19 Medi 2012
Ar drothwy tymor newydd i brifysgolion Cymru bydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn lansio yn swyddogol ei gynllun academaidd cyntaf, yng nghwmni’r Gweinidog Addysg, Leighton Andrews AC. Cynhelir y lansiad ar ddydd Iau 20 Medi am 15:30, yn y Deml Heddwch, Parc Cathays, Caerdydd.
14 Medi 2012
Mae’r ffurflenni cais ar gyfer ysgoloriaethau israddedig y Coleg i’r flwyddyn academaidd 2013/14, wedi eu cyhoeddi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
6 Awst 2012
Cynhaliwyd cystadleuaeth ymryson ryng-golegol rhwng myfyrwyr sy’n astudio’r Gyfraith ym Mhrifysgolion Caerdydd ac Aberystwyth ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mro Morgannwg eleni.
7 Awst 2012
Mewn darlith ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mro Morgannwg heddiw (Awst 7) mae’r awdur a’r newyddiadurwr Rhys Evans wedi datgan fod gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ‘le angenrheidiol ym mhennod nesaf hanes Cymru os yw’r iaith Gymraeg i barhau fel iaith hyfyw’.
6 Awst 2012
Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn lansio Tystysgrif Sgiliau Iaith Gymraeg, a fydd yn cydnabod sgiliau iaith Gymraeg myfyrwyr prifysgol. Cynhelir y lansiad ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol ar ddydd Llun 6 Awst am 15:30, yng nghwmni’r Gweinidog Addysg a Sgiliau, Leighton Andrews AC.
7 Awst 2012
Bydd darlith flynyddol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mro Morgannwg eleni yn nodi ac yn dathlu canmlwyddiant geni Gwynfor Evans. Teitl y ddarlith yw ‘Canrif Gwynfor: Melancoli, Moderniaeth a Bro Gymraeg’ a bydd yn cael ei thraddodi gan Rhys Evans, darlledwr ac awdur y cofiant, Gwynfor: Rhag Pob Brad.
9 Awst 2012
Yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mro Morgannwg eleni bydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn cynnal digwyddiad er mwyn nodi nifer o ddatblygiadau mewn perthynas ag astudio Athroniaeth drwy gyfrwng y Gymraeg.
9 Awst 2012
Yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mro Morgannwg eleni bydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn cynnal digwyddiad i lansio cyfrol newydd gan yr Athro R. Gwynedd Parry – Cymru’r Gyfraith: Sylwadau ar Hunaniaeth Gyfreithiol. Dyma’r tro cyntaf ers tua deng mlynedd ar hugain i gyfrol academaidd Gymraeg ar faes y Gyfraith gael ei chyhoeddi.
7 Awst 2012
Yr e-gyfnodolyn Gwerddon yn dathlu cyhoeddi Degfed Rhifyn a chyflwyno’r cyfnodolyn ar ei newydd wedd.
7 Awst 2012
Cynhelir digwyddiad ar stondin y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni fydd yn sicr o ennyn ymateb! Byddwn yn rhoi sylw i’r Gymraeg yn y maes iechyd a hynny ddydd Mawrth, y 7fed o Awst am 13:30
8 Awst 2012
Dewch i glywed a chyfrannu at drafodaeth fywiog ar ‘Yr Economi Gymreig’ ym mhabell y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn yr Eisteddfod Genedlaethol dydd Mercher, yr 8fed o Awst am 13:00
03 Gorffennaf 2012
Bydd y ddarpariaeth gerddoriaeth cyfrwng Cymraeg mewn addysg uwch yn ehangu ymhellach yn dilyn penodi tri darlithydd mewn prifysgolion ar draws Cymru.
28 Mehefin 2012
Addysgu blaengar a chyflogadwyedd fydd ymhlith rhai o’r themâu a fydd yn cael eu trafod yn ystod ail gynhadledd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, a gynhelir ar 3 Gorffennaf yng Nghanolfan Medrus, Prifysgol Aberystwyth.
19 Mehefin 2012
Cynhaliwyd Cynhadledd Wyddonol Gyntaf y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ddydd Gwener 15 Mehefin ym Mhrifysgol Aberystwyth
27 Ebrill 2012
Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn falch i gyhoeddi rhestr o ymgeiswyr llwyddiannus Prif Ysgoloriaethau’r Coleg ar gyfer y flwyddyn academaidd 2012/13.