Dyma’r ail ddigwyddiad o’i fath, gan i’r Sefydliad Mathemateg a Ffiseg, Prifysgol Aberystwyth drefnu digwyddiad tebyg yn haf 2009. Bryd hynny, canolbwyntio ar y ddarpariaeth Gymraeg yn y Sefydliad Mathemateg a Ffiseg yn unig oedd canolbwynt y digwyddiad . Gyda’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol bellach yn weithredol trefnwyd digwyddiad cenedlaethol oedd yn cwmpasu’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg nid yn unig yn y Sefydliad Mathemateg a Ffiseg, ond hefyd yn yr Ysgol Fathemateg ym Mhrifysgolion Abertawe a Chaerdydd.
Clywodd yr athrawon am ddatblygiadau newydd yn y maes yn sgil sefydlu’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae'r rhain yn cynnwys dyfarnu darlithyddiaeth cyfrwng Cymraeg ffiseg newydd i Brifysgol Aberystwyth sy’n ychwanegol i'r darlithydd cyfrwng Cymraeg Mathemateg eisoes yn y sefydliad; dyfarnu darlithyddiaeth cyfrwng Cymraeg mathemateg i Brifysgol Caerdydd a dyfarnu Ysgoloriaeth Ymchwil Cyfrwng Cymraeg Mathemateg i Brifysgol Abertawe. Yn ogystal, bydd Mathemateg a Ffiseg yn feysydd fydd yn gymwys ar gyfer Ysgoloriaethau Cymhelliant y Coleg gwerth £1500 i’r rheini fydd yn dechrau astudio yn y Brifysgol o Fedi 2012. Mae’r Coleg hefyd yn ariannu prosiectau strategol cenedlaethol ac amlinellwyd gwaith dau brosiect oedd yn berthnasol i Fathemateg a Ffiseg sef y Prosiect Termau Addysg Uwch a Phrosiect Edward Llwyd.
Cafwyd cyflwyniadau gan staff y tri sefydliad yn amlinellu’r sefyllfa cyfrwng Cymraeg gyfredol yn y sefydliadau. Cafwyd hefyd gyfle i wrando ar brofiadau dau fyfyriwr o’r Sefydliad Mathemateg a Ffiseg, ill dau o gefndiroedd Cymraeg hollol wahanol.
I atgyfnerthu’r neges am bwysigrwydd sgiliau dwyieithog mewn mathemateg a ffiseg yn y gweithle, cafwyd cyflwyniadau gan Nia Roberts, Llywodraeth Cymru; Eiddig Morgan, Cyngor Sir Ceredigion ac Eilir Jones, BBC Cymru.
Croesawyd y seminar gan Mr Wyn Jones, Athro Mathemateg Ysgol Morgan Llwyd:
“Cafwyd cyflwyniadau diddorol a defnyddiol oedd yn ein hatgoffa o’n rôl fel athrawon i annog myfyrwyr i fanteisio ar y cyfleoedd mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol newydd yn eu cynnig.”
Yn y prynhawn, cafwyd cyfle i rannu syniadau a meddwl am ffyrdd o gydweithio rhwng y ddau sector. Dywedodd Dr Eleri Pryse, Prifysgol Aberystwyth:
“Bu’r diwrnod yn gyfle euraidd i rannu gwybodaeth a syniadau. Rydym yn gwerthfawrogi'r syniadau pendant a gawsom gan yr athrawon ar sut gallwn fel sector addysg uwch gydweithio gyda'r ysgolion a cholegau i gefnogi pobl ifanc, a'u hannog i astudio elfennau drwy gyfrwng y Gymraeg.”