Ymgeiswyr Llwyddiannus Prif Ysgoloriaethau'r Coleg
27 Ebrill 2012
Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn falch i gyhoeddi rhestr o ymgeiswyr llwyddiannus Prif Ysgoloriaethau’r Coleg ar gyfer y flwyddyn academaidd 2012/13.

Dyma’r ail flwyddyn yn hanes y cynllun ysgoloriaethau. Cafodd y cynllun ei lansio yn wreiddiol gan y Gweinidog dros Addysg a Sgiliau Leighton Andrews, yn 2010, a gwelwyd 120 o fyfyrwyr yn ennill un o’r ysgoloriaethau israddedig yn ystod y flwyddyn academaidd 2011/12.

Cynigir ysgoloriaethau israddedig y Coleg mewn dau gategori - cyrsiau gradd lle mae o leiaf 240 credyd ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg, gan gynnwys o leiaf 80 ymhob blwyddyn (Prif Ysgoloriaethau), a chyrsiau gradd lle mae o leiaf 120 credyd ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg, gan gynnwys o leiaf 40 credyd ymhob blwyddyn (Ysgoloriaethau Cymhelliant). Mae’r dyddiad cau ar gyfer yr Ysgoloriaethau Cymhelliant ar 4 Mai 2012 ac mae darpar fyfyrwyr ar gyfer Medi 2012 yn cael eu hannog i ymweld â gwefan y Coleg am fanylion ymgeisio i’r Ysgoloriaethau Cymhelliant.

Eleni eto, mae’r rhestr o ymgeiswyr llwyddiannus yn cynnwys trawstoriad o fyfyrwyr o bob cwr o Gymru.  Dau sydd wedi elwa o’r cynllun ysgoloriaethau y llynedd yw Dion Owen Jones o Lansannan a Louise Smith o Gastell-nedd.

Mae Louise Smith wedi gwirioni ar ôl derbyn ysgoloriaeth i astudio ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.

“Dwi’n dod o Sgiwen, ger Castell-nedd ac dwi wedi derbyn un o’r Prif Ysgoloriaethau i astudio Crefydd a Chymdeithas.  Fe ddewisais y pwnc gan fod gen i ddiddordeb mawr mewn pobl a sut mae nhw’n byw.  Y peth gorau am fod yn y Brifysgol yw’r cymdeithasu! Dim ond saith ohonom ni sy’n gwneud y cwrs ac r’yn ni’n barod yn ffrindiau mawr.  Mae’n braf iawn cael astudio trwy gyfrwng y Gymraeg.  Rwy’n teimlo’n fwy hyderus yn ysgrifennu yn Gymraeg.  Mae’n llawer o help. Ac oherwydd fy mod i’n astudio trwy gyfrwng y Gymraeg, dw i wedi ennill un o Brif Ysgoloriaethau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol!”

Yn ôl Dion Owen Jones, mae’r Ysgoloriaeth Cymhelliant i astudio ym Mhrifysgol Bangor wedi bod o gymorth mawr:

“Mi wnes i dderbyn Ysgoloriaeth Cymhelliant gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, sy’n golygu £500 y flwyddyn am dair blynedd.  Mi fydd yn ddefnyddiol iawn, yn help i dalu am lety a chostau byw.  Dwi’n mwynhau’r cwrs Busnes yn fawr, yn enwedig Economeg.  Mae 40 credyd ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg bob blwyddyn.  Mae’n llawer haws i mi astudio trwy gyfrwng y Gymraeg gan fy mod i’n gyfarwydd â’r termau ar ôl i mi dderbyn addysg uwchradd trwy gyfrwng y Gymraeg yn Ysgol Glan Clwyd.”

Dywedodd Cadeirydd Bwrdd Cyfarwyddwyr y Coleg, Yr Athro R. Merfyn Jones:

“Eleni, mae mwy o gyrsiau cyfrwng Cymraeg yn gymwys ar gyfer ysgoloriaethau’r Coleg, ac mae’r ffigwr yma wedi cynyddu’n sylweddol dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae gallu cynnig dewis eang i fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith yn ddatblygiad yr wyf yn ei groesawi’n fawr ac yn profi’r galw sydd yn bodoli am addysg uwch trwy gyfrwng y Gymraeg. Hoffwn ddiolch i’r sefydliadau am eu hymrwymiad i weithgareddau’r Coleg sydd wedi sicrhau ein bod ni’n medru datblygu a chynnal darpariaeth cyfrwng Cymraeg mewn modd strategol a chynaliadwy i’r sector addysg uwch yng Nghymru”.

Yn rhan o’r cynllun ysgoloriaethau mae 7 o sefydliadau addysg uwch Cymru, sef Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Abertawe, Prifysgol Fetropolitan Caerdydd, Prifysgol Bangor, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Morgannwg a Phrifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant.

Ychwanegodd Dr. Ioan Matthews, Prif Weithredwr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol:

“Hoffwn longyfarch y myfyrwyr sydd wedi cael eu henwebu am un o brif ysgoloriaethau’r Coleg eleni. Mae’r cynllun ysgoloriaethau yn un o nifer o gynlluniau craidd y Coleg sydd yn ymateb i’r amcan o gynyddu niferoedd y myfyrwyr sy’n astudio drwy gyfrwng y Gymraeg yn genedlaethol. Yn y dyfodol, bydd y myfyrwyr yma’n gallu elwa ar ddatblygiadau cyffrous megis ymgymryd â chyfnod o brofiad gwaith ac astudio tuag at Dystysgrif Sgiliau Iaith Gymraeg y Coleg”.

Ceir rhestr o'r ymgeiswyr llwyddiannus yma: Prif Ysgoloriaethau 2012 - 2013

Rheolwr Cyfathrebu
gwybodaeth@colegcymraeg.ac.uk