Mae’r Coleg wedi ymrwymo, drwy ei Gynllun Academaidd, i weithio tuag at adfer lle Athroniaeth fel maes astudio drwy gyfrwng y Gymraeg ym mhrifysgolion Cymru, ac fel arwydd o’r ymrwymiad hwnnw, yn sefydlu partneriaeth ffurfiol gydag Adran Athroniaeth Urdd y Graddedigion.
Hefyd, yn ystod y digwyddiad bydd cyfres ‘Y Meddwl Modern’ yn cael ei lansio ar ffurf electronig, wedi ei digido fel rhan o bartneriaeth rhwng y Coleg a’r Llyfrgell Genedlaethol. Bydd y gyfres ar gael ar lwyfan adnoddau’r Coleg Cymraeg, y Porth. Bydd y Coleg hefyd yn cyhoeddi’n ffurfiol benodiad Dr Huw Williams i ddarlithyddiaeth genedlaethol mewn Athroniaeth. Cyllidwyd y swydd drwy Gynllun Staffio Academaidd y Coleg ac fe’i lleolir ym Mhrifysgol Caerdydd.
Mae’r Coleg hefyd yn croesawu’r cyfle i gynnal lansiad cyfrol deyrnged i’r diweddar Athro Dewi Z. Phillips, Abertawe. Mae Cred, Llên a Diwylliant, yn gyfrol sydd wedi ei golygu gan Dr E. Gwynn Matthews a’i chyhoeddi gan Wasg Y Lolfa.
Cynhelir y dathliad ar ddydd Iau, 9 Awst, am hanner dydd ym mhabell y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Llywydd Adran Athroniaeth Urdd y Graddedigion yw Dr Meredydd Evans. Dywedodd:
“Mae Adran Athroniaeth Urdd Graddedigion Prifysgol Cymru yn croesawu'n frwd ei pherthynas â'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Gwêl ei dyfodol ynghlwm wrth ffyniant y sefydliad newydd hwn, yn arbennig yn dilyn penodiad Dr Huw Williams yn ddarlithydd mewn Athroniaeth o dan nawdd y Coleg. O hyn ymlaen bydd ef yn hyfforddi ac yn hybu athronyddu trwy gyfrwng y Gymraeg ar wastad Addysg Uwch yng Nghymru. Croesawa'r Adran hefyd benderfyniad y Coleg i ail-gyhoeddi ar ffurf ddigidol y gyfres o bedair cyfrol ar bymtheg, 'Y Meddwl Modern', sydd yn ymdrin â rhai o brif athronwyr a meddylwyr y byd. Byddant yn adnodd gwerthfawr a hwylus i athronwyr Cymraeg y dyfodol.”
Prif Weithredwr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yw Dr Ioan Matthews. Ychwanegodd:
“Mae’r Coleg yn edrych ymlaen yn fawr at ddathlu’r gweithgareddau sy’n digwydd ym maes Athroniaeth drwy gyfrwng y Gymraeg. Gwerthfawrogwn y cyfle i gydweithio gydag Adran Athroniaeth Urdd y Graddedigion Prifysgol Cymru ac i ddatblygu’r berthynas rhwng y Coleg a’r Urdd yn y dyfodol. Gyda phenodiad Dr Huw Williams i ddarlithyddiaeth mewn Athroniaeth drwy Gynllun Staffio Academaidd y Coleg gallwn ddisgwyl gweld y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn y maes yn cynyddu dros y blynyddoedd nesaf.”