Merfyn Jones - Cadeirydd Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Y Coleg

Gair o groeso gan y Cadeirydd, yr Athro R. Merfyn Jones

Braint oedd cael fy mhenodi yn gadeirydd cyntaf ar Fwrdd Cyfarwyddwyr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, sydd bellach yn llawn weithredol. Mae aelodau'r Bwrdd yn edrych ymlaen at adeiladu ar y sylfaen gadarn a osodwyd eisoes, gan yr Athro Robin Williams a Geraint Talfan Davies a fu'n cadeirio'r byrddau a fu'n ymwneud â sefydlu'r Coleg yn ffurfiol, a gan staff y Ganolfan Addysg Uwch Cyfrwng Cymraeg (sydd bellach yn rhan o'r Coleg) a fu'n cydweithio gyda'r prifysgolion gyda'r gwaith ymarferol o ddydd i ddydd. 

Prif nodau’r Coleg yw:

  • Yn unol â’i gyfansoddiad, i hybu dysg a gwybodaeth drwy hyrwyddo, cynnal, datblygu a goruchwylio darpariaeth cyfrwng Cymraeg mewn addysg uwch yng Nghymru, gan weithio gyda sefydliadau addysg uwch yng Nghymru a thrwyddynt.
  • Fel corff sydd â gorolwg dros yr holl ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg, darparu undod o ran pwrpas, cydlyniad ac arweinyddiaeth drwy strategaeth academaidd genedlaethol.
  • Helaethu’r ddarpariaeth ar gyfer myfyrwyr, gan ymateb i’r galw gan fyfyrwyr, a thrwy hynny gynyddu’r niferoedd y myfyrwyr sy’n astudio drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae'r wefan hon yn darparu gwybodaeth am weithgareddau'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, gan gynnwys cynlluniau a gyllidir drwy gronfeydd y Coleg.