Astudiodd Heledd gwrs gradd mewn Biocemeg a Geneteg am dair blynedd ym Mhrifysgol Aberystwyth, cyn astudio tuag at ddoethuriaeth ym Mhrifysgol Bangor gyda chefnogaeth Ysgoloriaeth Ymchwil wrth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, gan ganolbwyntio ar ddatgelu swyddogaethau strwythurau arbenigol sy’n cael eu ffurfio yn ystod meiosis mewn burum Affricanaidd (Schizosaccharomyces pombe). Yn ystod y cyfnod hwnnw, bu’n gweithio yn Sefydliad Ymchwil Cancr y Gogledd-Orllewin.
Yn ogystal â’i gyrfa academaidd, cafodd ambell gyfle i fod yn rhan o brosiectau eraill. Bu’n gyflwynwraig a chynorthwy-ydd gwyddonol ar Atom – rhaglen wyddonol i blant ar S4C – am dair blynedd, a chafodd hefyd gyfle i gyfrannu at wefan BBC Bitesize, ar gyfer y modiwlau adolygu Bywydeg.
Maes Dysgu / Arbenigedd
- Bywydeg
- Microbioleg
- Bioleg moleciwlar
- Geneteg.