Ers 2011, mae’r Coleg Cymraeg wedi noddi 115 o ddarlithwyr newydd i addysgu pynciau drwy gyfrwng y Gymraeg ym mhrifysgolion Cymru.
Mae’r darlithwyr yn arbenigwyr byd-eang yn eu meysydd ac yn gyfrifol am addysgu myfyrwyr, denu rhagor i astudio drwy’r iaith a chreu adnoddau dysgu newydd.
Erbyn heddiw, mae myfyrwyr yn gallu astudio 27 o feysydd yn rhannol neu’n gyfan gwbl drwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae modd astudio meysydd mor amrywiol â Meddygaeth, Newyddiaduraeth, Gwleidyddiaeth a Daearyddiaeth yn rhannol drwy gyfrwng y Gymraeg.