Y Pwyllgor Penodiadau sy’n gyfrifol am y broses o benodi Cyfarwyddwyr ar gyfer y Coleg, gan gynnwys y Cadeirydd. Sefydlwyd y Pwyllgor hwn er mwyn sicrhau elfen allanol i’r broses o benodi ac ail-benodi Cadeirydd a Chyfarwyddwyr y Coleg yn unol ag egwyddorion Nolan ar gyfer gweithio mewn bywyd cyhoeddus.