Estynnwyd rôl y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gynnwys y sectorau Addysg Bellach a Phrentisiaethau a lansiwyd strategaeth genedlaethol newydd yn 2019. Comisiynwyd rhaglen datblygu staff a rhaglen fentora cenedlaethol ar gyfer y sector ôl-16 sy’n cael eu darparu ar ran y Coleg Cymraeg Cenedlaethol gan Sgiliaith.
Nod Rhaglen Datblygu Staff Cenedlaethol Sgiliaith yw darparu hyfforddiant arloesol a chyngor ymarferol ar adnoddau ac arferion da i staff yn y sectorau addysg bellach a phrentisiaethau. Bwriad hynny yw cefnogi ymarferwyr i gynnig darpariaeth Gymraeg a dwyieithog i ddysgwyr a phrentisiaid.
Ceir cyfleoedd hyfforddiant Sgiliaith sy’n addas i bawb yn y sector, beth bynnag eu sgiliau Cymraeg neu brofiad blaenorol.
Mae Rhaglen Hyfforddiant Datblygu Staff Sgiliaith yn cynnigamrywiaeth eang o gyfleoedd hyfforddiant i gefnogi dilyniant sgiliau dwyieithog ymarferwyr, a chynigia Cynllun Fentora Staff Sgiliaith gefnogaeth i ymarferwyr mewn sefyllfaoedd dysgu go iawn i fewnosod y Gymraeg/dwyieithrwydd yn y dosbarth neu yn y gweithle.
Cewch fanylion pellach am gyfleoedd hyfforddiant a mentora Sgiliaith yn eu prosbectws.