Bydd aelodaeth Cyfeillion y Coleg yn agored i unrhyw aelod o’r cyhoedd sy’n dymuno ymaelodi. Bydd pob aelod sy’n cofrestru fel Cyfaill yn dod yn aelod o Gymdeithas Cyfeillion y Coleg. Mae Cymdeithas Cyfeillion y Coleg wedi ei sefydlu ar ffurf gysgodol ar hyn o bryd, gyda’r Dr Meredydd Evans yn Llywydd ar y Gymdeithas. Caiff cyfansoddiad ei gytuno yn y dyfodol agos. Pan fydd y Gymdeithas yn weithredol rhoddir ystyriaeth i gyflwyno tâl aelodaeth ar gyfer Cyfeillion y Coleg. Mater i aelodau’r Gymdeithas fydd dod i benderfyniad ar hynny. Rhagwelir bydd Cymdeithas Cyfeillion y Coleg yn sefydlu cronfa ar gyfer cyllido ysgoloriaethau a gwobrau eraill ar gyfer myfyrwyr. Mae’n bosibl y bydd Cymdeithas y Cyfeillion yn sefydlu canghennau mewn gwahanol leoliadau yng Nghymru ac yn trefnu digwyddiadau a gweithgareddau yn lleol. Rhagwelir y bydd y Gymdeithas yn cynnal cyfarfod blynyddol yn yr Eisteddfod Genedlaethol.
Bydd Aelodaeth ‘Cyfaill’ o’r Coleg yn cynnig y buddion canlynol:
Gellir ymaelodi gyda'r Coleg trwy ddefnyddio'r ffurflen ar-lein neu gellir gofyn am ffurflenni cofrestru papur drwy gysylltu â Rhinedd Williams yn swyddfa ganolog y Coleg.