Mae Gwerddon yn e-gyfnodolyn academaidd cyfrwng Cymraeg.
Cyhoeddir Gwerddon ar y we o leiaf ddwywaith y flwyddyn ac mae’n cynnwys ymchwil ysgolheigaidd yn y Gwyddorau, y Celfyddydau a’r Dyniaethau. Golygydd Gwerddon yw Dr Anwen Jones, pennaeth yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Yn ogystal â darparu llwyfan ar gyfer cyhoeddi erthyglau ysgolheigaidd cyfrwng Cymraeg ar draws y disgyblaethau, mae Gwerddon yn adnodd gwerthfawr ar gyfer myfyrwyr sy’n astudio ystod eang o bynciau drwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae Gwerddon yn cwrdd â gofynion y ‘Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil’ (REF) ac yn gweithredu cyfundrefn arfarnu annibynnol yn ogystal ag arddel y safonau golygyddol uchaf.
Cyllidir Gwerddon gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a chynrychiolir nifer o sefydliadau addysg uwch Cymru ar y bwrdd golygyddol. Cyhoeddwyd rhifyn cyntaf Gwerddon ym mis Ebrill 2007.