Mae'r Cynllun Ysgoloriaethau Ymchwil yn noddi myfyrwyr i astudio tuag at ddoethuriaeth. Nod y cynllun yw atgyfnerthu nod strategol y Coleg o ‘hyrwyddo a datblygu ysgolheictod, ymchwil a chyhoeddi drwy gyfrwng y Gymraeg’ a meithrin ymchwilwyr o’r radd flaenaf.
Dyfernir hyd at ddeg ysgoloriaeth bob blwyddyn sy'n ddyfarniadau tair blynedd.
Y dyddiad cau ar gyfer blwyddyn academaidd 2023/24 yw 30 Ionawr 2023 ac mae'r ffurflen gais a chopi o amodau a thelerau'r cynllun isod.
I glywed y diweddaraf, dilynwch ein cyfrif Trydar @olraddccc ac ymunwch a'r Gymuned Ôl-radd.