Yn yr ymchwil hwn, canolbwyntir ar agweddau penodol ar archif helaeth Dr Meredydd Evans a Phyllis Kinney. Rhagwelir y bydd ffrwyth yr ymchwil yn sail i dri math gwahanol o gynnyrch, sef:
- Astudiaeth ysgolheigaidd o gyfraniad y ddau i fyd cerddoriaeth werin Cymru,
- Allbynnau cerddorol (e.e. casgliad o ganeuon gwerin anghyhoeddiedig) a fydd yn gyfrwng i ddwyn yr archif i sylw’r cyhoedd,
- Gweithgaredd cyhoeddus (arddangosfeydd a pherfformiadau) a fydd yn hyrwyddo’r llawysgrifau hyn a chyfraniad neilltuol y ddau a fu’n ddyfal yn eu dwyn ynghyd.
Dyddiad Cychwyn: Hydref 2019