Annog entrepreneuriaeth yng nghadarnleoedd y Gymraeg
Nod y ddoethuriaeth yw adnabod y ffactorau sy’n cynorthwyo neu’n rhwystro graddedigion ac entrepreneuriaid Cymraeg eu hiaith sy’n hannu o’r bröydd Cymraeg i sefydlu, neu eu hatal rhag sefydlu busnesau yn yr ardaloedd yma. Bydd y prosiect ymchwil yn amlygu goblygiadau economaidd, ieithyddol a chymunedol cysylltiedig, gyda’r nod o fod o ddefnydd i’r sawl sy’n creu polisïau, strategaethau a rhaglenni addysgiadol sy’n dylanwadu ar wytnwch y bröydd Cymraeg.
Bydd y prosiect yn canolbwyntio ar dri sector, sef crefft, bwyd a diod, a’r sector digidol, gyda chymysgedd o unigolion hunangyflogedig a sylfaenwyr busnesau bach neu ganolig eu maint yn rhan o’r ymchwil.
Dyddiad cychwyn: Hydref 2020