Garmon Dafydd Iago

Prifysgol Caerdydd: Athroniaeth

Garmon Dafydd Iago

Prifysgol Caerdydd: Athroniaeth

Yn draddodiadol, ystyriwyd gweithiau Adorno a Foucault yn wrth-oleuedigaeth, a dilynwyd y trywydd annigonol hwn wrth geisio dadansoddi eu perthynas yn wreiddiol. Esgeuluswyd natur oleuedig eu gweithiau, yr echel sy’n anelu at ryddfreinio a rhyddid. Yn fwy diweddar, mae ymdriniaethau o weithiau’r ddau wedi pwysleisio’r agwedd hon. Yn hytrach nag eithafwyr mympwyol sy’n ymwrthod ag etifeddiaeth yr Oleuedigaeth, a thrwy hyn, sy’n rhy eithafol i’w cymryd o ddifrif, mae llawer yn barod i ddeall eu gweithiau fel cyfraniadau dwys, ystyriol ac eithriadol berthnasol. Felly, mynna nifer o ddadansoddwyr fod angen dadansoddiad newydd o berthynas sy’n cymryd sylw o’r safbwyntiau hyn.

Pa fath o berthynas, felly? Credaf fod angen dangos agosatrwydd a phellter ar yr un pryd. Dyma’r union beth sy’n gwneud cymhariaeth o’u gweithiau mor ddiddorol, eu bod ill dau yn enwi problemau tebyg, ond yn dod at gasgliadau sydd bron yn llwyr wahanol i’w gilydd. Yng nghyd-destun goleuedigaeth, gwelir hyn yn glir, boed o ran casgliadau cyferbyniol am amseriad goleuedigaeth neu am ei natur.

Yn hytrach na cheisio gosod fframwaith anaddas ar eu gweithiau, a’u trafod drwy’r fframwaith estron hwnnw, ceisir, drwy enwi pynciau cyffredin, osod y ddau ohonynt mewn dialog ar y pwnc hwnnw. Drwy hyn, gobeithir medru dangos cyfraniad Adorno a Foucault i’r drafodaeth am natur goleuedigaeth, ond hefyd, gobeithir dangos perthnasedd ei syniadau i’r oes bresennol hefyd.

Dyddiad Cychwyn: Hydref 2013