Yn ôl y WWF, rhwng 1970 a 2018 roedd cwymp byd-eang o bron i 60% yn y nifer o famaliaid, pysgod, adar, amffibiaid ac ymlusgiaid. Mae cwymp o’r fath mewn bioamrywiaeth yn fygythiol iawn i ddynol-ryw ond mae’n anodd cyfathrebu’r ffeithiau i’r cyhoedd er mwyn galluogi pobl i fyw mewn modd sydd yn fwy llesol i amryw o anifeiliaid.
Yn y prosiect hwn, gofynnir: beth yw’r ffordd fwyaf effeithiol o newid agweddau ac ymddygiad pobl er mwyn gwarchod bioamrywiaeth?
Dyddiad cychwyn: Hydref 2018