Yn rhifyn Hydref 2012 o Gylchgrawn y Coleg ceir cyfweliad gyda Aled Siôn Davies, enillydd medal Aur yng ngemau Paralympaidd 2012, cyfweliad gyda'r newyddiadurwraig a'r gogyddes Elliw Gwawr, gwybodaeth am ysgoloriaethau'r Coleg, cyngor ar sut i wneud y mwyaf o ddiwrnodau agored prifysgolion, cyngor gan ddarlithwyr ar sut i wneud cais UCAS cryf, a llawer mwy!