Darpar Fyfyrwyr

Cau
Darpar Fyfyrwyr

Yn yr adran hon ceir gwybodaeth am y cyfleoedd sydd ar gael i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg yn y brifysgol. Mae’r Coleg Cymraeg yn trefnu rhaglen lawn o weithgareddau, sy'n cynnwys digwyddiadau yn y gwyliau cenedlaethol, mewn ysgolion uwchradd, ac o fewn ffeiriau rhanbarthol UCAS. Cewch wybod mwy am y cyfleoedd astudio drwy ymweld â’r chwilotydd cyrsiau. Dyma'r unig le canolog lle gellir chwilio am gyrsiau cyfrwng Cymraeg fesul maes neu sefydliad.

Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn cynnig nifer o ysgoloriaethau i’r sawl sy’n bwriadu astudio yn Gymraeg. Mae'r ysgoloriaethau gwerth hyd at £3000, ac maent yn cael eu cynnig i fyfyrwyr cyfrwng Cymraeg a fydd yn cychwyn ar eu cyrsiau prifysgol. Mae'r dyddiad cau wedi mynd heibio ar gyfer mynediad 2013, a bydd y manylion ymgeisio ar gyfer mynediad 2014 yn cael eu cyhoeddi yma yn Medi 2013. 

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Cau
Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Mae'r Coleg yn sefydliad cenedlaethol sydd yn chwarae rhan ganolog mewn cynllunio, cynnal a datblygu cyrsiau ac adnoddau cyfrwng Cymraeg i fyfyrwyr. Mae'r Coleg yn gweithio mewn partneriaeth gyda'r prifysgolion yng Nghymru ac yn cyllido nifer o brosiectau a fydd yn cyfoethogi profiadau astudio myfyrwyr cyfrwng Cymraeg eu hiaith yn y dyfodol. Gallwch ddarllen mwy am waith y Coleg trwy glicio fan hyn - Gwaith y Coleg.

Mantais
Astudio cwrs meistr yn mis medi? Mae'r Coleg yn cynnig ysgoloriaethau meistr, dyddiad cau 15 o Orffennaf. Gwybodaeth: http://t.co/gLMSL3oIgQ

0 diwrnod yn ôl
@lynsey_thomas Llongyfarchiadau mawr iawn i chi i gyd wrth staff y Coleg!

0 diwrnod yn ôl