Prosbectws

Cau

Bydd copiau o brosbectws cyntaf y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar gael yn Eisteddfod yr Urdd eleni. Dyma'r tro cyntaf i brosbectws gael ei chyhoeddi gan y Coleg ac mae'n cynnwys gwybodaeth am gyrsiau cyfrwng Cymraeg ar draws y Prifysgolion a chyngor ar ddewis llwybr gyrfa. Dewch draw i'r stondin i gael eich copi. 

Ysgoloriaethau 2013

Cau

Llongyfarchiadau mawr i'r rhai sydd wedi cael eu henwebu ar gyfer Prif Ysgoloriaeth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.  Ceir rhestr llawn o'r rhai sydd wedi eu henwebu isod.  Mae'r ysgoloriaeth yn werth £3,000 dros dair blynedd am astudio dwy rhan o dair o'r cwrs gradd trwy gyfrwng y Gymraeg. Ceir manylion pellach yn yr adran gyllid. 

Digwyddiadau 2013

Cau

UCAS 2013

Diolch i bawb wnaeth ymweld â stondin y Coleg yn ffeiriau UCAS Wrecsam, Caerdydd a Chaerfyrddin - ac i'r rhai ddaeth i'r seminarau. Roedd hi'n braf eich cyfarfod chi! Rydym yn edrych ymlaen at ffair UCAS olaf 2013, sef yr un ym Mangor ar yr 11eg o Fehefin. Cofiwch ddod i'r stondin ac i'r seminarau am wybodaeth gynhwysfawr a defnyddiol ar yr hyn all y Coleg gynnig i chi.

Haf 2013

Mae'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn edrych ymlaen yn fawr i ymweld â nifer o ddigwyddiadau yn ystod Haf 2013. Mae'r rhain yn cynnwys Eisteddfod yr Urdd Sir Benfro (27 Mai - 1 Mehefin), Tafwyl (Caerdydd, 15 Mehefin), Y Sioe Frenhinol (Llanelwedd 22 - 25 Gorffennaf) a'r Eisteddfod Genedlaethol yn Sir Ddinbych (2-10 Awst). Ceir rhaglen lawn o ddigwyddiadau Eisteddfod yr Urdd isod. Cofiwch ddod draw i ddweud helo!

Ymaelodi â’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Cau
Ymaelodi â’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Mae y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn cynnig system aelodaeth sydd yn caniatáu i bobl sydd â diddordeb yng ngwaith y Coleg i ymaelodi â’r sefydliad.  Bydd aelodau yn derbyn gwybodaeth am weithgareddau a datblygiadau’r Coleg, ynghyd â manylion am gyfleoedd a fydd yn codi o gynlluniau’r Coleg.

Cynigir pedwar categori o aelodaeth, ar gyfer:

Darpar fyfyrwyr

Myfyrwyr presennol

Staff o fewn y Sector Addysg Uwch

Cyfeillion

Er mwyn ymgeisio am Ysgoloriaeth Israddedig ar gyfer 2013/14 mae'n rhaid i ymgeiswyr fod yn aelod o'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Er mwyn ymaelodi mae'n rhaid llenwi cais yn yr adran Ymaelodi ar y wefan hon.

Mantais
Coleg Menai yn ennill gwobr Cymraeg @ColegauCymru wedi ei noddi gan y @colegcymraeg http://t.co/CVLQbefG3s

0 diwrnod yn ôl
Bydd y @colegcymraeg yn cyflwyno gwobr y Gymraeg @ColegauCymru heno ma - yr enwebai Coleg Ial, Coleg Penybont a Choleg Menai

0 diwrnod yn ôl