Mae’r Cynllun Staffio Academaidd yn gynllun uchelgeisiol a chyffrous sy’n hanfodol i ymdrechion y Coleg i gynyddu’r dewisiadau a’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg i fyfyrwyr. Drwy’r cynllun, mae’r Coleg yn darparu grantiau i alluogi prifysgolion Cymru i gyflogi rhagor o ddarlithwyr cyfrwng Cymraeg. Erbyn 2015, bydd dros 100 o ddarlithwyr newydd wedi’u penodi, a hynny mewn meysydd mor amrywiol ag Astudiaethau Busnes, y Gyfraith, Meddygaeth, Nyrsio a Bydwreigiaeth, Amaethyddiaeth ac Addysg Gorfforol.
- Darlithwyr Celfyddydau
- Darlithwyr Iechyd
- Darlithwyr Gwyddorau Cymdeithasol
- Darlithwyr y Gwyddorau