Mae gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol raglen o wobrau sy’n cael eu dyfarnu yn flynyddol o fewn maes Addysg Uwch Cyfrwng Cymraeg. Mae'r rhain yn cael eu dyfarnu i unigolion am waith, cyflawniad neu gyfraniad rhagorol yn y maes.
Mae'r gwobrau wedi eu sefydlu mewn amrywiol feysydd ac mae Paneli Dyfarnu unigol â chyfrifoldeb am eu dyfarnu. Ynghyd â’r gwobrau hyn, mae’r Coleg hefyd yn Urddo Cymrodyr Er Anrhydedd pob blwyddyn.
Ceir manylion yr amrywiol wobrau isod.