Dyfernir Gwobr Goffa Eilir Hedd Morgan gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae’r Wobr yn cydnabod, nid yn unig blaengarwch ymchwil ymysg y gwyddorau, ond cyfraniad unigolyn ifanc i addysgu’r gwyddorau trwy gyfrwng y Gymraeg mewn sefydliad addysg uwch. Diolchwn i deulu Eilir am eu cytundeb a’u cydweithrediad i ddyfarnu’r wobr hon.
Roedd Eilir Morgan yn un o gyn-ddeiliaid mwyaf disglair Cynllun Ysgoloriaethau PhD y Coleg ac yn dilyn hynny fe'i benodwyd yn ddarlithydd ym Mhrifysgol Bangor dan nawdd cynllun Staffio Academaidd y Coleg. Bu farw mewn damwain yn 29 oed yn Llanrug yn 2013.
Enillwyr:
2014: Dr Huw Morgan, Prifysgol Aberystwyth
2015: Dr Hywel Griffiths, Prifysgol Aberystwyth
2016: Yr Athro Siwan Davies, Prifysgol Abertawe
2017: Dr Prysor Williams, Prifysgol Bangor
2018: Dr Tudur Davies, Prifysgol Aberystwyth
2019: Dr Marie Busfield, Prifysgol Aberystwyth