Dyfernir Gwobr Norah Isaac yn flynyddol gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Sefydlodd y Coleg y wobr hon yn 2014 er cof am Norah Isaac. Dyfernir hi i’r myfyriwr a gafodd y canlyniad gorau yn asesiad Tystysgrif Sgiliau Iaith Gymraeg y Coleg.
Merch o’r Caerau, Maesteg, oedd Norah Isaac. Ar ôl hyfforddi fel athrawes, bu’n gweithio i Urdd Gobaith Cymru tan y’i penodwyd yn brifathrawes Ysgol Gymraeg Aberystwyth yn 1939, yr ysgol cyfrwng Cymraeg gyntaf yng Nghymru. Rhwng 1950 a 1958, bu’n darlithio yn ei hen goleg yn y Barri cyn cael ei phenodi’n brif ddarlithydd mewn Drama yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin, lle y bu tan ei hymddeoliad yn 1975. Bu’n ddylanwad mawr ar y byd addysg a byd y ddrama, ac fe’i hurddwyd yn Gymrawd o’r Eisteddfod Genedlaethol.
Enillwyr blaenorol:
2014 - Cerith Rhys Jones, Prifysgol Caerdydd
2015 - Manon Elwyn Hughes, Prifysgol Bangor
2016 - Meinir Olwen Williams, Prifysgol Bangor
2017 - Aneirin Karadog, Prifysgol Abertawe
2018 - Anna Wyn Jones, Prifysgol Aberystwyth
2019 - Cerian Colbourne, Prifysgol Abertawe
2020 - Gruffydd Rhys Davies, Prifysgol Aberystwyth
2021 - Sioned Spencer, Prifysgol Bangor