Dydd Iau 07 Ionawr 2021
Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi penodi’r Llysgenhadon Ysgol cyntaf erioed mewn ysgolion uwchradd ar draws Cymru er mwyn helpu i hyrwyddo manteision addysg cyfrwng Cymraeg.
Dydd Iau 10 Rhagfyr 2020
Agorir enwebiadau heddiw (dydd Iau 10 Rhagfyr) ar gyfer dwy wobr newydd sbon gan Ymddiriedolaeth William Salesbury wedi eu gweinyddu gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar gyfer dysgwr yn y sector addysg bellach a phrentisiaethau a myfyriwr ymchwil meddygaeth.
Dydd Mercher 09 Rhagfyr 2020
Mae Cyngor Addysg Graddedigion y DU a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn falch o gyhoeddi fersiwn Cymraeg o’r Fframwaith Ymarfer Goruchwyliol Da. Mae'r Fframwaith Ymarfer Goruchwyliol Da yn cydnabod, ar lefel genedlaethol, y set eang, cymhleth a heriol o swyddogaethau sy'n gysylltiedig â goruchwyliaeth ymchwil fodern.
15 Medi 2020
Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn falch i gyhoeddi mai Canolfan Sgiliaith fydd yn arwain ar gynllun hyfforddi a mentora ar gyfer cynyddu’r staff sy’n darparu trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn ddwyieithog yn y sectorau addysg bellach a phrentisiaethau.
Dydd Mercher 05 Awst 2020
Mae tri myfyriwr o brifysgolion Aberystwyth a Chaerdydd wedi ennill gwobrau er cof am dri o Gymry dylanwadol ym maes addysg uwch cyfrwng Cymraeg.
16 Gorffennaf 2020
Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi cyhoeddi pedwar enillydd ar gyfer gwobrau Darlithwyr Cysylltiol 2019-20.
Dydd Llun 06 Gorffennaf 2020
Medi Gwenllian Morgan o Ysgol Tryfan, Bangor, yw enillydd Ysgoloriaeth Cyngor Gwynedd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol eleni.
Dydd Mawrth 23 Mehefin 2020
Ar Ddiwrnod Gwasanaethau Cyhoeddus y Cenhedloedd Unedig mae’r Coleg Cymraeg yn lansio ap newydd i gefnogi gweithwyr yn y gwasanaethau cyhoeddus ac argyfwng megis swyddogion yr heddlu, y gwasanaeth tân a pharafeddygon i gyfathrebu’n Gymraeg gyda’r cyhoedd.
22 Mehefin 2020
Mewn ymateb i argyfwng Covid-19 a’r cyfnod clo presennol, mae’r Coleg Cymraeg yn falch o gyhoeddi y bydd ei Gynhadledd Ymchwil flynyddol yn cael ei chynnal ar-lein eleni ar 1 Gorffennaf 2020.
8 Mehefin 2020
Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn cyhoeddi heddiw y bydd yn ymestyn ei Gynllun Ysgoloriaeth Cymhelliant i gynnwys pob myfyriwr fydd yn dechrau yn y brifysgol yn mis Medi 2020 sy’n dewis astudio o leiaf 40 credyd drwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd deiliaid yr ysgoloriaeth yn derbyn £500 y flwyddyn (neu £1,500 dros dair blynedd).
13 Mai 2020
Bydd arddangosfa ‘Golwg ar Gelf’ sy’n cynnwys ystod eang o waith myfyrwyr cyfrwng Cymraeg o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Met Caerdydd a Choleg Sir Gar, yn symud ar-lein eleni o ganlyniad i argyfwng Covid-19.
Dydd Llun 27 Ebrill 2020
Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn lansio gwefan newydd heddiw (dydd Llun 27 Ebrill) sy’n cynnwys cyfoeth o adnoddau dysgu cyfrwng Cymraeg ôl-16 fydd yn cefnogi dysgu o adref yn ystod y cyfnod eithriadol presennol.
25 Mawrth 2020
Mae Bwrdd Cyfarwyddwyr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi cyhoeddi mai Gareth Pierce fydd Cadeirydd newydd y Bwrdd o 1 Ebrill 2020.
Mae cannoedd o adnoddau dysgu cyfrwng Cymraeg ar gael yn rhad ac am ddim i fyfyrwyr prifysgol a blwyddyn 12 sydd yn astudio adref yn sgil argyfwng Coronavirus.
19 Mawrth 2020
Mae’r neges hon yn crynhoi rhai o’r camau mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi cymryd yn ystod yr ansicrwydd presennol. Mae’r Coleg yn cymryd y camau hyn gan ystyried iechyd, diogelwch a lles staff, myfyrwyr, cyfeillion y Coleg a’r gymuned ehangach.
Dydd Iau 06 Chwefror 2020
Ar ymweliad ag Ysgol Feddygaeth Prifysgol Caerdydd heddiw (dydd Iau 6 Chwefror 2020), bydd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething AC, yn cyhoeddi cyllid gan Lywodraeth Cymru er mwyn cefnogi rhagor o ddarpar fyfyrwyr Meddygaeth a Deintyddiaeth Cymraeg i ymgeisio’n llwyddiannus i’r brifysgol.
5 Chwefror 2020
Mae’r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams AC, yn ymuno â’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol mewn digwyddiad yn adeilad y Pierhead, Bae Caerdydd, heddiw (dydd Mercher 5 Chwefror) er mwyn lansio Cynllun Strategol y Coleg ar gyfer y pum mlynedd nesaf.
Dydd Iau 30 Ionawr 2020
Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi penodi’r llysgenhadon cyntaf erioed o’r sector Addysg Bellach a Phrentisiaethau er mwyn helpu hyrwyddo sgiliau dwyieithrwydd o fewn y Colegau Addysg Bellach ac i’r sector prentisiaethau.
Dydd Mercher 3 Gorffennaf 2019
Mae dau fyfyriwr o Brifysgol Aberystwyth wedi ennill gwobrau er cof am ddau o Gymry dylanwadol ym maes addysg uwch cyfrwng Cymraeg. Bydd Michelle Rafferty a Iestyn Tyne yn derbyn Gwobr John Davies a Gwobr Gwyn Thomas mewn digwyddiad arbennig ar faes Eisteddfod Genedlaethol Conwy yn mis Awst.
2 Gorffennaf 2019
Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn falch iawn o gyhoeddi mai Rebecca Martin o Brifysgol Abertawe yw pumed enillydd Gwobr Merêd.
28 Mai 2019
Mae 19 o artistiaid Cymraeg wedi cyfrannu at brosiect i ddangos y cyfoeth o brofiadau sydd i’w cael ym maes celf a dylunio yng Nghymru.
22 Mai 2019
Mae Ymddiriedolaeth William Salesbury wedi cyhoeddi taw James Hope yw enillydd Ysgoloriaeth William Salesbury 2019.
Dydd Iau 11 Ebrill 2019
Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi cyhoeddi penodiad pedwar aelod newydd o Fwrdd Cyfarwyddwyr y Coleg. Mae Meri Huws, Gareth Pierce, Nia Elias ac Angharad Lloyd-Williams yn dechrau ar eu swyddogaeth yn syth ac yn parhau am gyfnod o bedair blynedd.
Dydd Mercher 27 Mawrth 2019
Mae dros 450 o staff mewn prifysgolion ledled Cymru wedi elwa ar y cynllun Cymraeg Gwaith dros y flwyddyn ddiwethaf.
19 Mawrth 2019
Bydd y llenor a’r bardd Catrin Dafydd yn un o dri unigolyn a fydd yn cael eu hurddo yn Gymrawd er Anrhydedd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yr wythnos nesa. Mae Bwrdd Cyfarwyddwyr y Coleg wedi penderfynu urddo tri Cymrawd er Anrhydedd eleni sef Catrin Dafydd, y gwyddonydd yr Athro Deri Tomos a’r cyn llyfrgellydd Andrew Green.
18 Mawrth 2019
Mae Gwerddon, e-gyfnodolyn y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, yn dathlu cyhoeddi tros gant o erthyglau ymchwil gwreiddiol cyfrwng Cymraeg.
01 Chwefror 2019
Bu criw o ddysgwyr celfyddydau perfformio, cerddoriaeth a'r cyfryngau o Goleg Merthyr Tudful yn rhan o weithdy Fframio Uchelgais yn ddiweddar er mwyn helpu hyrwyddo’r Gymraeg yn y Coleg, diolch i grant gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
20 Chwefror 2019
Bu dros 50 o ddisgyblion blwyddyn 12 o bob cwr o Gymru yn mynychu cynhadledd breswyl dros y penwythnos fel rhan o gynllun y Coleg Cymraeg Cenedlaethol mewn partneriaeth â Phrifysgol Caerdydd, Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Bangor.
02 Chwefror 2019
Cynhaliwyd cynhadledd Iechyd a Gofal yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro yn ddiweddar o dan nawdd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Dydd Iau 24 Ionawr 2019
Heddiw, bydd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, yn lansio cynllun uchelgeisiol i ddatblygu’n sylweddol darpariaeth Cymraeg a dwyieithog yn y sectorau Addysg Bellach a Phrentisiaethau.
14 Ionawr 2019
Mae’r Coleg Cymraeg wedi penodi llysgenhadon newydd ar gyfer 2019 er mwyn annog mwy o ddarpar fyfyrwyr i ymddiddori ym maes addysg uwch cyfrwng Cymraeg.
11 Rhagfyr 2018
Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol heddiw yn croesawu datganiad yr Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg, Kirsty Williams a chyhoeddiad y Cynllun i ddatblygu’n sylweddol darpariaeth Cymraeg a dwyieithog yn y sectorau Addysg Bellach a Phrentisiaethau.
25 Hydref 2018
Dros yr wythnosau nesaf fe fydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn cynnal gweithdy o amgylch ysgolion uwchradd Cymru gyda tri bardd adnabyddus er mwyn codi proffil y Gymraeg fel pwnc ymhlith disgyblion blwyddyn 10 ac 11.
Mae rhifyn diweddaraf Gwerddon yn tystio i gefnogaeth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i ymchwil academaidd cyfrwng Cymraeg. Mae awduron y pedair erthygl a gyhoeddir yn rhifyn 27 wedi derbyn cefnogaeth ariannol gan y Coleg tuag at eu hymchwil neu eu swydd academaidd.
12 Hydref 2018
Darlithwraig y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ym Mhrifysgol Aberystwyth yw enillydd Gwobr Syr Ellis Griffith Prifysgol Cymru eleni. Dyfarnwyd y wobr i Dr Rhianedd Jewell gan Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd, Prifysgol Cymru, am ei hastudiaeth o waith cyfieithu’r dramodydd Saunders Lewis
28 Medi 2018
Ar nos Iau, Medi 27ain, yn Neuadd Powis, Prifysgol Bangor, cynhaliwyd digwyddiad i nodi lansiad cyfrol newydd a hynod arwyddocaol ym maes cerddoriaeth yng Nghymru.