Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn cyllido rhagor o ddarlithwyr newydd i addysgu mewn Colegau Addysg Bellach mewn gwahanol rannau o Gymru.
Yn sgil y penodiadau, bydd darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn datblygu ym maes Amaethyddiaeth yng Ngholeg Sir Gâr o dan adain Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ac Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Ngholeg Meirion Dwyfor, Llandrillo Menai.
Mae Trystan Griffiths yn awyddus i ehangu ar y ddarpariaeth Amaethyddiaeth sydd eisoes yn bodoli ar gampws Gelli Aur, Coleg Sir Gâr:
‘‘Rydw i'n edrych ymlaen at gydweithio gyda'r adran amaeth yng Ngelli Aur yn ogystal â'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, a bwrw iddi i ddarlithio yn ogystal â datblygu adnoddau defnyddiol ar gyfer y myfyrwyr.’’
Ar ôl treulio cyfnod yn darlithio dan nawdd y Coleg Cymraeg ym Mhrifysgol Abertawe, bydd Delyth Lloyd Griffiths yn mynd ati i ehangu ar y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg ar gyfer myfyrwyr Iechyd a Gwaith Cymdeithasol yng Ngholeg Meirion Dwyfor, Llandrillo Menai.
Yn ôl Dr Ioan Matthews, Prif Weithredwr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol:
‘‘Roeddem yn falch o fedru cefnogi penodi’r unigolion hyn i’w swyddi ac o weld partneriaeth y Coleg â’r Colegau Addysg Bellach yn tyfu o nerth i nerth. Hoffwn ddymuno’r gorau iddynt wrth greu adnoddau a denu darpar fyfyrwyr i’w priod feysydd dros y blynyddoedd nesaf.’’
Llun: Trystan Griffiths, Amaethyddiaeth, Coleg Sir Gâr
Gellir gweld lluniau o'r holl ddarlithwyr sydd wedi'u penodi dan nawdd y Coleg Cymraeg eleni yma