Unwaith eto eleni, mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi cyllido rhagor o ddarlithwyr newydd i addysgu mewn gwahanol feysydd ar draws prifysgolion Cymru.
Yn sgil y penodiadau, bydd darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn datblygu ym Mhrifysgol De Cymru mewn meysydd fel Tirfesureg ac Astudiaethau Tir ac Eiddo a Busnes a Rheoli.
Gyda dros 30 mlynedd o brofiad fel cyfarwyddwr sawl cwmni cyhoeddus yn y sector breifat yn ogystal â darlithio, mae Owain Llywelyn o Gaerdydd wedi’i benodi fel Darlithydd Tirfesureg ac Astudiaethau Tir ac Eiddo ym Mhrifysgol De Cymru, ac mae’n awyddus i ymgymryd â’r gwaith addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg:
‘‘Rwy’n mawr obeithio y byddaf yn gallu datblygu’r ddarpariaeth Gymraeg ym meysydd Tirfesureg ac Astudiaethau Tir ac Eiddo, gyda’r nod o gynyddu’r niferoedd sy’n ymgeisio am gyrsiau addysg uwch ym Mhrifysgol De Cymru.’’
Carys Mai Hughes o Abergwaun sydd wedi’i phenodi i swydd ddarlithio ym maes Busnes a Rheoli a bydd hi’n ymuno gyda thîm o ddarlithwyr cyfrwng Cymraeg Canolfan ABC – sef Canolfan Astudiaethau Busnes y Coleg Cymraeg yn ne ddwyrain Cymru. Mae’r Ganolfan yn gweithio ar draws tair prifysgol erbyn hyn – sef Prifysgol De Cymru, Prifysgol Metropolitan Caerdydd a Phrifysgol Caerdydd.
Mae gan Carys radd dosbarth cyntaf mewn Busnes ac fe dderbyniodd wobr myfyriwr disgleiriaf y flwyddyn ym maes rheoli digwyddiadau gan Brifysgol De Cymru.
Yn ôl Carys:
‘‘Mae gen i ddiddordeb byw yng ngwaith Canolfan Astudiaethau Busnes y Coleg (Canolfan ABC) wedi i mi gwblhau traean o fy ngradd trwy gyfrwng y Gymraeg yno. Rwy’n awyddus i gynorthwyo’r darlithwyr i ddatblygu’r Ganolfan ymhellach a chreu cyfleoedd newydd i astudio Busnes, Rheolaeth, Twristiaeth, Lletygarwch a Digwyddiadau trwy gyfrwng y Gymraeg.’’
Yn ôl Dr Ioan Matthews, Prif Weithredwr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol:
‘‘Roeddem yn falch o fedru cefnogi penodi’r unigolion hyn i’w swyddi ac yn edrych ymlaen at weld cynnydd yn y nifer sy’n astudio’r pynciau trwy’r Gymraeg yn sgil buddsoddiad y Coleg. Hoffwn ddymuno’r gorau iddynt wrth greu adnoddau a denu darpar fyfyrwyr i’w priod feysydd dros y blynyddoedd nesaf.’’
Llun: Carys Mai Hughes, Busnes, Prifysgol De Cymru
Gellir gweld lluniau o'r holl ddarlithwyr sydd wedi'u penodi dan nawdd y Coleg Cymraeg eleni
yma