Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi penodi llysgenhadon er mwyn ceisio annog mwy o ddarpar fyfyrwyr i astudio trwy’r Gymraeg ar lefel addysg uwch.
Mae’r 14 llysgennad wedi’u lleoli mewn saith prifysgol ar hyd a lled Cymru gan gynnwys dau ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.
Bydd Heledd Roberts o Langadog a Deian Thomas o Bumsaint, yn dechrau ar eu gwaith fis yma ac yn gyfrifol am gwblhau gwahanol dasgau drwy’r flwyddyn.
Eu prif rôl fydd ceisio dwyn perswâd ar ddisgyblion ysgol i ddilyn rhan o’u hastudiaethau prifysgol trwy’r Gymraeg a chyflwyno’r manteision a ddaw yn sgil hynny.
Byddant yn cynrychioli’r Coleg Cymraeg mewn ymweliadau ysgolion, ffeiriau UCAS ac Eisteddfodau yn ogystal ag yn cofnodi eu profiadau mewn blog newydd sbon.
Llais y Llysgennad yw enw’r blog sy’n rhoi darlun o fywyd myfyriwr cyfrwng Cymraeg ar ffurf lluniau, fideos a llawer mwy.
Roedd Heledd sy’n astudio Perfformio, wrth ei bodd o gael cyfle i astudio ei chwrs gradd trwy’r Gymraeg:
‘‘Y peth gorau am astudio cwrs yn rhannol trwy'r Gymraeg yw’r cyfle i gymdeithasu a gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg gyda phobl ifanc sydd â’r un diddordebau â mi.’’
Gobaith Deian sydd hefyd yn astudio Perfformio, yw lleddfu unrhyw bryderon sydd gan ddisgyblion am fentro i fyd addysg uwch cyfrwng Cymraeg:
‘‘Peidiwch â phoeni, mae digon o gymorth ar gael yn y brifysgol ac mae fy Nghymraeg i’n gwella bob dydd. Yn ychwanegol, mae’r gymdeithas glos sy’n bodoli ar y campws a’r teimlad o fod yn rhan o un teulu mawr yn wych.’’
Gellir dilyn blog llysgenhadon y Coleg Cymraeg yma yn ogystal â gweld lluniau o’r unigolion ar safle Flickr y Coleg Cymraeg.
Llun: Deian Thomas