Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi penodi llysgenhadon er mwyn ceisio annog mwy o ddarpar fyfyrwyr i astudio trwy’r Gymraeg ar lefel addysg uwch.
Mae’r 14 llysgennad wedi’u lleoli mewn saith prifysgol ar hyd a lled Cymru gan gynnwys dwy ym Mhrifysgol De Cymru.
Bydd Carys Jones o Landysul a Rebecca Williams o Donypandy yn dechrau ar eu gwaith fis yma ac yn gyfrifol am gwblhau gwahanol dasgau drwy’r flwyddyn.
Eu prif rôl fydd ceisio dwyn perswâd ar ddisgyblion ysgol i ddilyn rhan o’u hastudiaethau prifysgol trwy’r Gymraeg a chyflwyno’r manteision a ddaw yn sgil hynny.
Byddant yn cynrychioli’r Coleg Cymraeg mewn ymweliadau ysgolion, ffeiriau UCAS ac Eisteddfodau yn ogystal ag yn cofnodi eu profiadau mewn blog newydd sbon.
Llais y Llysgennad yw enw’r blog sy’n rhoi darlun o fywyd myfyriwr cyfrwng Cymraeg ar ffurf lluniau, fideos a llawer mwy.
Bydd yn rhaid iddynt fod yn gyfarwydd â Chynllun Ysgoloriaethau Israddedig y Coleg Cymraeg a sôn am y profiad o dderbyn arian fel yr eglura Carys, dderbyniodd ei haddysg yn Ysgol Dyffryn Teifi cyn astudio Rheoli Adnoddau Dynol yn y brifysgol:
‘‘Un o’r pethau gorau wnes i oedd ymgeisio am ysgoloriaeth gyda’r Coleg Cymraeg gan ei fod yn help mawr, yn enwedig pan fydd angen prynu nwyddau ar gyfer y modiwlau yn ogystal ag ambell anrheg nawr ac yn y man.’’
Gobaith Rebecca aeth i Ysgol y Cymer cyn astudio Rheolaeth Busnes yw lleddfu unrhyw bryderon sydd gan ddisgyblion am fentro i fyd addysg uwch cyfrwng Cymraeg:
‘‘Fy nghyngor i fyddai i beidio â phoeni os nad ydych yn hollol hyderus yn y Gymraeg gan fod modd cyflwyno gwaith yn ddwyieithog. Nid yw fy ngramadeg i’n berffaith ond mae’r darlithwyr bob amser yn barod i helpu.’’
Gellir dilyn blog llysgenhadon y Coleg Cymraeg yma yn ogystal â gweld lluniau o’r unigolion ar safle Flickr y Coleg Cymraeg.
Llun: Carys Jones a Rebecca Williams