Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi penodi llysgenhadon er mwyn ceisio annog mwy o ddarpar fyfyrwyr i astudio trwy’r Gymraeg ar lefel addysg uwch.
Mae’r 14 llysgennad wedi’u lleoli mewn saith prifysgol ar hyd a lled Cymru gan gynnwys un ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Bydd Poppy Evans o Bontiets, Llanelli sy’n astudio’r Gyfraith yn dechrau ar ei gwaith fis yma ac yn gyfrifol am gwblhau gwahanol dasgau drwy’r flwyddyn.
Ei phrif rôl fydd ceisio dwyn perswâd ar ddisgyblion ysgol i ddilyn rhan o’u hastudiaethau prifysgol trwy’r Gymraeg a chyflwyno’r manteision a ddaw yn sgil hynny.
Bydd yn cynrychioli’r Coleg Cymraeg mewn ymweliadau ysgolion, ffeiriau UCAS ac Eisteddfodau yn ogystal ag yn cofnodi eu profiadau mewn blog newydd sbon.
Llais y Llysgennad yw enw’r blog sy’n rhoi darlun o fywyd myfyriwr cyfrwng Cymraeg ar ffurf lluniau, fideos a llawer mwy.
Roedd Poppy, wnaeth dderbyn ei haddysg uwchradd yn Ysgol Bro Myrddin, wrth ei bodd o gael y cyfle i barhau â’i haddysg Gymraeg:
‘‘Rwyf wedi astudio trwy gyfrwng y Gymraeg ers pan oeddwn i yn yr ysgol gynradd a dwi'n gweld bod gan fyfyrwyr dwyieithog sgil arbennig i’w roi ar CV.’’
Mae Poppy hefyd yn dymuno lleddfu unrhyw bryderon sydd gan ddisgyblion am fentro i fyd addysg uwch cyfrwng Cymraeg:
‘‘Mae’r Coleg Cymraeg yn darparu nifer o ddeunyddiau astudio ar-lein sydd o gymorth mawr. Mae’r darlithoedd ychydig yn llai o ran maint felly mae’n gyfle gwych i dderbyn mwy o gymorth gan y darlithwyr sy’n fanteisiol iawn.’’
Gellir dilyn blog llysgenhadon y Coleg Cymraeg yma yn ogystal â gweld lluniau o’r unigolion ar safle Flickr y Coleg Cymraeg.