Bydd cynhadledd yng Nghaerdydd yr wythnos hon (29 Ionawr) yn mynd i'r afael â'r mater pwysig hwn, ac yn cyflwyno'r ymchwil ddiweddaraf i'r maes.
Bydd Cynhadledd Tlodi Plant yng Nghymru, a drefnwyd ar y cyd gan Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Caerdydd, a'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, yn cynnwys cyfraniadau gan academyddion, ymchwilwyr, gwleidyddion ac ymarferwyr.
Bydd y pynciau a drafodir yn cynnwys uchelgais a phobl ifanc o gymunedau difreintiedig yng nghymoedd de Cymru, addysg cyfrwng Cymraeg yn Grangetown, ac effeithiau tlodi ar blant a phobl ifanc o ardaloedd gwledig.
Bydd Mark Drakeford AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, yn cyflwyno yn ystod y gynhadledd, a rhoddir y cyflwyniad clo gan Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru.
Dywedodd yr Athro Mark Drakeford: "Mae Strategaeth Tlodi Plant Llywodraeth Cymru yn cadarnhau ein hymrwymiad at ddull effeithiol o drechu tlodi plant yng Nghymru. Rydym yn cydweithio ag awdurdodau lleol, y trydydd sector a'r sector preifat, i gael gwared ar dlodi drwy roi'r dechrau gorau posibl mewn bywyd i bob plentyn.
"Rydym hefyd yn parhau i wneud popeth yn ein gallu i liniaru effeithiau diwygiadau lles a mesurau caledi Llywodraeth y DU.
"Mae codi pobl o dlodi, a diogelu pobl rhag niwed sy'n gysylltiedig â thlodi, wrth wraidd y llywodraeth hon. Dyna pam ein bod wedi gwarchod cyllid Dechrau'n Deg, Grant Amddifadedd Disgyblion a Chefnogi Pobl yn ein Cyllideb Ddrafft."
Bydd yr Athro Jonathan Scourfield, Athro Gwaith Cymdeithasol a Dirprwy Bennaeth Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, yn cyflwyno ei waith ar anghydraddoldebau lles plant.
Wrth drafod y pwnc, meddai: "Byddaf yn cyflwyno astudiaeth bwysig sydd ar y gweill ar hyn o bryd i gymharu anghydraddoldebau lles plant ym mhedair cenedl y DU. Mae plant sydd mewn gofal ac ar gofrestrau amddiffyn plant yn debygol iawn o ddod o gymunedau difreintiedig.
"Mae'r gwasanaethau cymdeithasol yn aml yn cymryd hyn yn ganiataol, ond mae dadl gref y dylai gwasanaethau fod yn canolbwyntio'n benodol ar fynd i'r afael ag anghydraddoldebau economaidd."
"Byddaf hefyd yn cyflwyno canlyniadau annisgwyl gwaith ymchwil a wnaed gan gydweithwyr yn Lloegr. Ni waeth beth oedd lefel amddifadedd cymdogaeth, roedd yr ymchwil yn canfod bod plant mewn awdurdodau lleol mwy cefnog yn fwy tebygol o gael gofal neu fod yn destun cynlluniau amddiffyn plant na phlant mewn ardaloedd llai cefnog.
"Felly, er bod plant mewn cymdogaethau mwy difreintiedig yn dangos lefelau uwch o angen, mae'n bosibl bod ardaloedd mwy cefnog yn derbyn cyfran anghymesur o'r gwariant o ystyried yr angen."
Dywedodd Dr Dafydd Trystan, Cofrestrydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol;
"Mae'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn hynod falch i noddi cynhadledd ar bwnc mor bwysig. Dyma'r tro cyntaf i gynhadladd o'r maint yma ar bolisi cymdeithasol gael ei chynnal yng Nghaedydd. Mae'n dangos maint y diddordeb proffesiynol ac academaidd sydd mewn trafod polisi cymdeithasol a thlodi plant trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'r Coleg yn falch iawn i gyd-weithio â Phrifysgol Caerdydd ar bwnc mor bwysig," meddai Dafydd.
Cymraeg fydd iaith cyflwyniadau'r gynhadledd, a bydd cyfleuster cyfieithu ar y pryd ar gael.
Defnyddiwch #TlodiPlant neu #ChildPovertyWales wrth sôn am y gynhadledd ar Twitter.