22 Mehefin 2017
Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn llongyfarch y prifysgolion yng Nghymru sydd wedi sicrhau canlyniadau da yn y Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu (TEF).
24 Mawrth 2017
Mae Catherine Rees, Uwch Reolwr Materion Corfforaethol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi ennill cydnabyddiaeth cenedlaethol am ei defnydd o’r Gymraeg ym maes Adnoddau Dynol.
Dydd Mercher 26 Ebrill 2017
Am y tro cyntaf erioed, mae Ymddiriedolaeth William Salesbury wedi dyfarnu dwy ysgoloriaeth o £5,000 i fyfyrwyr fydd yn astudio cwrs yn gyfan gwbwl trwy gyfrwng y Gymraeg yn y brifysgol.
15 Mawrth 2017
Mae Catherine Rees, Uwch Reolwr Materion Corfforaethol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi cyrraedd rownd derfynol Gwobrau Adnoddau Dynol cyntaf Cymru. Mewn seremoni tei du a fydd yn cael ei chynnal yn Stadiwm SSE SWALEC yng Nghaerdydd ar 23 Mawrth, bydd y Gwobrau yn cydnabod ac yn dathlu llwyddiannau gweithwyr proffesiynol ym maes adnoddau dynol.
02 Mawrth 2017
Bydd Dr Prysor Williams, Uwch-ddarlithydd mewn Rheolaeth Amgylcheddol ym Mhrifysgol Bangor, yn derbyn Gwobr Goffa Eilir Hedd Morgan yng Nghynulliad Blynyddol y Coleg yn Abertawe ar nos Fercher 08 Mawrth 2017.
28 Chwefror 2017
Yn 2017 bydd cyfnodolyn ymchwil aml-ddisgyblaethol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn ddeng mlwydd oed ac i ddechrau ar y dathlu bydd rhifyn arbennig ar gerddoriaeth yn cael ei gyhoeddi.
20 Chwefror 2017
Mae Cynulliad Blynyddol y Coleg Cymraeg yn cael ei gynnal eleni yn Abertawe ar ddydd Mercher yr 8fed o Fawrth.
9 Chwefror 2017
Mae Bwrdd Cyfarwyddwyr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol heddiw wedi cyhoeddi mai Dr Haydn E Edwards fydd Cadeirydd newydd Bwrdd Cyfarwyddwyr y Coleg o 1 Ebrill 2017.
26 Ionawr 2016
Mae dau academydd o Brifysgol Abertawe a Phrifysgol Caerdydd, dan nawdd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, wedi uno eu harbenigeddau i greu modiwl newydd i fyfyrwyr y ddau sefydliad am y tirlun gwleidyddol yng Nghymru.
19 Ionawr 2017
Mae darpariaeth Newyddiaduraeth cyfrwng Cymraeg wedi ei chryfhau yn sgil penodiad newydd trwy Gynllun Staffio Academaidd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
23 Medi 2016
Mae’r Cwrs Agored Enfawr Arlein (CAEA neu MOOC) cyntaf i’w greu yn y Gymraeg wedi ennill un o wobrau adnoddau addysgol cyntaf CADARN 2016.
19 Medi 2016
Ers degawd a mwy mae myfyrwyr wedi manteisio ar gyllid gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i ddilyn doethuriaeth mewn prifysgolion ledled Cymru ac eleni bydd deg arall yn dechrau ar y daith honno am gyfnod o dair blynedd.
14 Medi 2016
Mae Llyfrgell ar-lein y Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi cael ei huwchraddio er mwyn galluogi myfyrwyr a darlithwyr i fanteisio ar y dechnoleg e-ddysgu ddiweddaraf.
29 Tachwedd 2016
Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn cynnig arian i’r rhai hynny sy’n dymuno dilyn cyfran o’u cwrs prifysgol trwy gyfrwng y Gymraeg yn 2017.
2 Tachwedd 2016
Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn croesawu’r datganiad a wnaed heddiw gan yr Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg, Kirsty Williams AC. Gan fod cyllideb ar gyfer blwyddyn academaidd 2017/18 bellach wedi ei chadarnhau, mae hyn yn rhoi sicrwydd ynghylch trefniadau cyllido’r Coleg i’r dyfodol.
9 Tachwedd 2016
Nos Fawrth 15 Tachwedd bydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Chymdeithas Ddysgedig Cymru yn cynnal Darlith Edward Lhuyd, digwyddiad blynyddol sydd yn dathlu ysgolheictod Cymraeg.
31 Hydref 2016
Mae’r rhifyn diweddaraf o Gwerddon, cyfnodolyn ymchwil y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, yn cynnwys ymchwil newydd Cymraeg ar lu o bynciau gwahanol. Mae rhifyn 22 yn cynnwys erthyglau ar laserau, tafodieitheg, cerddoriaeth roc cyfrwng Cymraeg a chaffael iaith.
3 Tachwedd 2016
Bydd myfyrwyr Celf a Dylunio o Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd yn rhannu ffrwyth eu llafur mewn arddangosfa yn Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd yr wythnos nesaf.
20 Hydref 2016
Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi cyhoeddi fod Dr Hefin Jones wedi ei benodi yn Ddeon y Coleg, a hynny am dymor newydd.
11 Hydref 2016
Pan fu farw Gwyn Thomas ym mis Ebrill 2016, collodd Cymru drysor cenedlaethol. Am bron deugain mlynedd, dylanwadodd ar genedlaethau o fyfyrwyr fel darlithydd, athro a phennaeth y Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor. (Hawlfraint llun Marian Delyth)