18 Gorffennaf 2018
Mewn digwyddiad arbennig ar stondin y Coleg Cymraeg yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018, bydd tri unigolyn yn derbyn gwobrau er cof am rai o gewri ein cenedl.
20 Mehefin 2018
Llongyfarchiadau mawr i bawb sydd wedi cael cynnig Ysgoloriaeth gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg mewn prifysgol yng Nghymru fis Medi.
Bydd dros 40 o ddisgyblion o bob cwr o Gymru yn dod ynghyd ar gwrs preswyl ddiwedd yr wythnos hon fel rhan o gynllun Doctoriaid Yfory y Coleg Cymraeg Cenedlaethol mewn partneriaeth â Phrifysgol Caerdydd a Phrifysgol Abertawe.
Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol heddiw yn cyhoeddi cynllun arloesol i ddatblygu’r gymuned o bobl sy’n addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg yng Nghymru a thu hwnt.
19 Mehefin 2018
Siân Elin Morgan-Price o Gaernarfon fydd yn derbyn Ysgoloriaeth Cyngor Gwynedd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol o £3,000 eleni.
31 Mai 2018
Bydd cyfle i ddarllenwyr o bob math gael blas ar ymchwil diweddaraf rhai o academyddion Cymru, diolch i bartneriaeth newydd rhwng y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, y cyfnodolyn academaidd Gwerddon a’r gwasanaeth newyddion ar-lein Golwg360.
Dydd Mawrth 01 Mai 2018
Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi cyhoeddi eu bod wedi penodi dau aelod newydd i ymuno â Bwrdd Cyfarwyddwyr y Coleg. Mae Llinos Roberts a Pedr ap Llwyd yn dechrau ar eu swyddogaeth yn syth ac yn parhau am gyfnod o bedair blynedd.
Dydd Llun 30 Ebrill 2018
Mae Ymddiriedolaeth William Salesbury wedi cyhoeddi taw Heledd Lois Ainsworth ac Elen Wyn Jones yw enillwyr Ysgoloriaeth William Salesbury 2018.
12 Mawrth 2018
Eleni eto caiff myfyrwyr sy'n astudio 100% o'u cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg gyfle i ymgeisio am Ysgoloriaeth William Salesbury, sy'n werth £5,000.
Mae’r cyfnodolyn ymchwil cyntaf erioed i ganolbwyntio ar y Blynyddoedd Cynnar cyfrwng Cymraeg newydd gael ei gyhoeddi.
7 Mawrth 2018
Mae’n bleser gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol gyhoeddi y bydd ysgoloriaethau a bwrsariaethau newydd i fyfyrwyr y Gyfraith ar gael o 2019 ymlaen, yn dilyn rhodd hael i’r Coleg yn ewyllys y diweddar Arglwydd Gwilym Prys-Davies.
1 Mawrth 2018
Bydd Cynulliad Blynyddol y Coleg Cymraeg yn cael ei gynnal eleni yn Aberystwyth ddydd Mercher 7 Mawrth a hynny yng Nghanolfan Morlan.
13 Chwefror 2018
Mae cynllun newydd i gynyddu’r nifer o fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith sy’n astudio meddygaeth wedi cael ei lansio gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol mewn partneriaeth â Phrifysgol Caerdydd a Prifysgol Abertawe.
25 Ionawr 2018
Mae’n argyfwng yng Nglan-Llyn y penwythnos yma wrth i 30 o fyfyrwyr meddygaeth Cymraeg o brifysgolion ar hyd a lled Cymru a Lloegr gymryd rhan mewn penwythnos meddygaeth frys wledig.
5 Ionawr 2018
Mae’r Coleg Cymraeg wedi penodi llysgenhadon newydd ar gyfer 2018 er mwyn annog mwy o ddarpar fyfyrwyr i ymddiddori ym maes addysg uwch cyfrwng Cymraeg.
1 Tachwedd 2017
Ar nos Fawrth 9 Tachwedd bydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Chymdeithas Ddysgedig Cymru yn cynnal Darlith Edward Lhuyd, digwyddiad blynyddol sydd yn dathlu ysgolheictod Cymraeg.
20 Hydref 2017
Dros y mis nesaf bydd y Gymraeg yn mynd ar wibdaith o amgylch ysgolion uwchradd Cymru gyda dau fardd adnabyddus er mwyn codi proffil y pwnc ymhlith disgyblion blwyddyn 10 ac 11.
3 Hydref 2017
Mae criw o ddarlithwyr o dan nawdd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi bod yn ran annatod o sefydlu a datblygu rhwydwaith sydd wedi ennill un o wobrau Mwy na Geiriau, Llywodraeth Cymru, heddiw.
21 Awst 2017
Rhodri Siôn o Brifysgol Aberystwyth fydd y cyntaf i dderbyn y Wobr Goffa Yr Athro Gwyn Thomas am ei draethawd estynedig israddedig orau a gyflwynwyd drwy gyfrwng y Gymraeg
4 Awst 2017
Eleni yn Eisteddfod Genedlaethol Môn bydd cyfnodolyn ymchwil y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Gwerddon yn dathlu ei ben-blwydd yn ddeg oed.
3 Awst 2017
Dr Lisa Sheppard o Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd yw enillydd Gwobr Gwerddon eleni. Dyfernir Gwobr Gwerddon bob dwy flynedd i awdur yr erthygl orau a gyhoeddwyd yn Gwerddon yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf.