Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn penodi un Cynrychiolydd Myfyrwyr o bob sefydliad addysg uwch i eistedd ar ei Fwrdd Academaidd.
Eu gwaith yw cynrychioli myfyrwyr sy’n astudio drwy gyfrwng y Gymraeg mewn Prifysgolion ledled Cymru.
Mae’r Bwrdd Academaidd yn cyfarfod dair gwaith y flwyddyn mewn lleoliadau ledled Cymru ac yn gyfrifol am oruchwylio gweithgareddau'r Coleg yn y sector addysg uwch.
Etholir y cynrychiolwyr yn flynyddol yn unol a threfniadau a gytunwyd gyda'r corff myfyrwyr.
CYNRYCHIOLWYR MYFYRWYR AR GYFER Y FLWYDDYN ACADEMAIDD 2021/22:
Mared Edwards, Prifysgol Aberystwyth
Mabon Dafydd, Prifysgol Bangor
Annell Dyfri, Prifysgol Caerdydd
Gwenllian Morris, Prifysgol Metropolitan Caerdydd
Miriam Catrin Lennon-Jones, Prifysgol Cymru: y Drindod Dewi Sant
Gwern Dafis, Prifysgol Abertawe
Seren Langdon Taylor, Prifysgol De Cymru