Y Pwyllgor Penodiadau a Safonau Llywodraethiant sydd yn gyfrifol am y broses o benodi cyfarwyddwyr ar gyfer y Coleg, gan gynnwys y Cadeirydd, ynghyd ag aelodau allanol o bwyllgorau’r Bwrdd (Y Pwyllgor Archwilio a Risg a’r Pwyllgor Cyllid a Dibenion Cyffredinol).
Sefydlwyd y Pwyllgor hwn er mwyn sicrhau elfen allanol i’r broses o benodi ac ail-benodi Cadeirydd a chyfarwyddwyr y Coleg, ac aelodau allanol o bwyllgorau’r Bwrdd, yn unol ag egwyddorion Nolan ar gyfer bywyd cyhoeddus.
Mae’r aelodaeth yn cynnwys:
Cadeirydd:
Rhian Huws Williams
Aelodau:
Dr Aled Eirug
Wyn Mears
Denise Williams
Gellir darllen cylch gorchwyl y Pwyllgor Penodiadau a Safonau Llywodraethiant yn yr adran cylchoedd gorchwyl.