Addysg Bellach a Phrentisiaethau
Yn dilyn adolygiad o weithgareddau’r Coleg yn 2016/17, mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i’r Coleg ymestyn ei weithgareddau i’r sector ôl-16, gan gwmpasu Addysg Bellach a Phrentisiaethau.
Sefydlwyd Grŵp Cynllunio lefel uchel a oedd yn cwmpasu cynrychiolwyr o’r sectorau Addysg Bellach a Phrentisiaethau ac fe ddatblygwyd Cynllun Gweithredu i’r sector a gafodd ei lansio gan y Gweinidog Addysg Kirsty Williams yn mis Ionawr 2019.
Mae’r Cynllun Gweithredu yn gynllun uchelgeisiol sydd yn amlinellu gweledigaeth i alluogi pob dysgwr i gynnal neu ddatblygu ei sgiliau iaith Gymraeg. Bydd y strategaeth yn dwyn ffrwyth dros y blynyddoedd nesaf a thrwy hynny yn gwneud cyfraniad sylweddol at nod y Llywodraeth o gyrraedd miliwn o siaradwyr.
Bydd mwy o wybodaeth am waith y Coleg yn y maes Addysg Bellach a Phrentisiaethau yn cael ei ychwanegu yma wrth i’r gwaith ddatblygu.
Os hoffech glywed am y newyddion diweddaraf am waith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol o fewn y sector ôl-16,
cwblhewch y ffurflen hon i dderbyn y newyddlen a diweddariadau am adnoddau dwyieithog newydd.