Penodwyd llysgenhadon yn y maes Addysg Bellach a Phrentisiaethau am y tro cyntaf y llynedd. Dyma gyfle i chi ddysgu mwy am eu rôl, eu bywydau personol a'u diddordebau.
Fel prentis Cymraeg rwyf wedi derbyn nifer o gyfleoedd ac wedi bod yn agored i brofiadau sydd wedi bod o fudd ac wedi fy nghynorthwyo i sicrhau swydd amser llawn gyda fy nghyflogwr (Cyngor Sir Caerfyrddin). Rwyf nawr yn gweithio llawn amser fel cydlynydd digidol ar gyfer gwasanaeth plant a theuluoedd Cyngor Sir Gar.
Helo! Fy enw i ydy Kate, dwi’n 19 mlwydd oed ac yn byw yn Ne Cymru. Fel rhan o’n lefelau A, dwi’n astudio Bioleg, Cemeg a Seicoleg ar gampws newydd Coleg Gwent yng Nghwmbrân.
Helo! Fy enw i yw Dan, ac rydw i’n ddysgwr yng Ngholeg Gwent. Dwi’n astudio Cyfrifiadureg, Ffiseg a Seicoleg (lefel A) yng nghampws newydd y coleg yng Nghwmbrân.
Fy enw i yw Lewis ac rwy'n astudio cwrs Gofal Plant lefel 3 yng Nglannau Dyfrdwy. Mae elfennau o'r cwrs yn ymdrin â chwarae, dysgu a datblygiad plentyn.
Gyda fy nghyfnod o ddwy flynedd yng Ngholeg Cambria yn dod i ben, rwy’n cael cyfle i edrych yn ôl ar fy mhrofiadau a’r cyfleoedd dwi wedi ei gael.
Gyda chyfyngiadau teithio o amgylch Cymru yn cael eu codi ddechrau mis Ebrill, manteisiais ar y cyfle i fynd ar daith i Amlwch yn Ynys Môn i ymweld â ffrind o'r Coleg. Byddai'r daith yn mynd â fi trwy Sir Dinbych, ar ymyl lan y môr, dros Bont Menai ac yna ar draws yr Ynys - roeddwn i mor gyffrous i weld tirwedd gwahanol...
Helo, fy enw i yw Molly a dwi’n llysgennad addysg bellach y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Ar hyn o bryd dwi’n astudio Gofal Plant yng Ngholeg y Cymoedd. Mae gen i lawer o frodyr a chwiorydd ac fel yr hynaf o 6 dwi wedi gwylio pob un ohonyn nhw’n tyfu.
Dros yr ychydig fisoedd diwethaf mae ein bywydau wedi bod yn wahanol, gyda llawer o reolau newydd sydd wedi golygu ein bod yn gorfod aros adref a dysgu o bell...
Mae Ceris yn gweithio fel Prentis Peirianneg Sifil Priffyrdd a Bwrdeistrefol i Gyngor Gwynedd. Ewch i ddarllen mwy am ei hanes...
Hiya, Ash ydw i a dwi’n astudio Gofal a Rheolaeth Ceffylau yn Coleg Cambria. Dyma ni, fy mlog cyntaf a dwi am drafod y pwnc dwi’n ei astudio yn y coleg. Rydw i hefyd yn mynd i siarad am sut rydw i'n teimlo ei bod hi'n bwysig dilyn eich angerdd wrth ddewis pa bynciau rydych chi am eu hastudio, gan y bydd hyn yn cael effaith fawr ar eich bywyd bob dydd.
Ar ôl cyfnod hir o astudio o adre’ rhwng mis Mawrth a Gorffennaf - lle'r oedd fy narlithoedd ar 'Zoom' ac roeddwn yn cwblhau aseiniadau o bell, daeth wythnosau braf y gwyliau Haf. Cyfle i wylio ffilmiau Disney a Netflix, cyfarfod ffrindiau a mynd am dro, a dathlu pen-blwydd ambell i ffrind yn ddeunaw oed yn eu gerddi.
Pan oedd mam a dad yn troi yn ddeunaw oed roedd ganddyn nhw ryddid i yrru car, partio gyda ffrindiau a theithio i fwynhau’r Haf. Dwi newydd droi yn ddeunaw ac mae fy mhrofiad i o fod yn oedolyn yn un hollol wahanol. Dwi dal heb basio fy mhrawf gyrru, dwi heb brynu diod mewn tafarn a dwi ddim hyd yn oed wedi gadael fy milltir sgwâr.
Ers talwm byddwn wedi meddwl taw ystyr ‘zoom’ oedd symud yn gyflym neu dechneg camera ond o fewn 24 awr o weithio o adref mi oeddwn yn hen gyfarwydd â chyfarfodydd Zoom lle bu’n rhaid trafod gyda’m nghydweithwyr hanner y cyflymder y byddwn fel arfer a gorfod aros am 30 eiliad o oedi cyn derbyn ymateb ganddynt...
Mae'r rhain yn amseroedd rhyfedd ac mae'r frwydr yn erbyn argyfwng COVID-19 yn flaenoriaeth i lawer ar hyn o bryd. Er hyn, nid COVID-19 yw'r unig argyfwng y mae angen i ni ei daclo, ni allwn anghofio am argyfwng yr hinsawdd.
Heiya! Sean sy’ ma’ a dwi’n astudio Astudiaethau Ffilm, Cyfryngau, Saesneg (Iaith) a'r Gyfraith yn Coleg Cambria. Dyma ni fy mlog cyntaf, sy’n eithaf difrifol (mae'n ddrwg gen i), ond mae’n bwnc llosg ar hyn o bryd a bydd y blog yn galluogi chi i roi barn ar y mater a chwythu stêm, os liciech chi.
Yn fy marn i, mae pobl o oedran fi mewn mwy o berygl gydag iechyd meddwl am fod pethau fel mynd i Uni, arholiadau, a straen yn unigryw i bobl ifanc, fel fi. Yn gynharach eleni, dwi wedi mynd trwy bethau erchyll, a dwi heb fod trwy unrhyw beth fel ‘na o blaen, ac roedd yn anodd, iawn.