Ysgoloriaethau
Oeddet ti’n gwybod bod modd i ti ymgeisio am arian i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg ym mhrifysgolion Cymru?
Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn cynnig ysgoloriaethau i fyfyrwyr israddedig sydd am ddilyn cyrsiau gradd mewn prifysgolion ledled Cymru.
Sut mae gwneud cais am arian?
Mae nifer o ysgoloriaethau gwahanol ar gael i ti, yn ddibynnol ar faint o'r cwrs wyt ti am astudio trwy gyfrwng y Gymraeg neu o ble wyt ti'n dod.
Clicia ar y dolenni yn y blychau isod a dilyn y camau!
Cofia hefyd, mae gan nifer o'r prifysgolion unigol ysgoloriaethau cyfrwng Cymraeg eu hunain felly cofia holi os oes un ohonynt yn gymwys i ti!
Pob lwc!