Bwrsariaeth Chwaraeon
Mae’r fwrsariaeth hon ar gau ar hyn o bryd a bydd hi’n agor nesaf ym mis Awst 2023
I bwy? Dysgwyr mewn colegau addysg bellach a phrentisiaid sy’n astudio chwaraeon
Sut gallai ymgeisio? Pan fydd y fwrsariaeth ar agor, bydd dolen i ffurflen gais ddwyieithog fan hyn. Llenwa hi i esbonio sut y byddi di’n defnyddio dy sgiliau dwyieithog ar dy gwrs. Cofia, brwdfrydedd i ddefnyddio a chynyddu’r defnydd o’r Gymraeg yn bersonol ac yn y gwaith neu ar leoliad sydd yn bwysig, nid pa mor dda yw dy Gymraeg di!
Rwyf wedi derbyn y fwrsariaeth o’r blaen, oes hawl gen i ymgeisio eto? Yn anffodus dim ond unwaith y gallu di dderbyn y fwrsariaeth.
Pob lwc!