Swyddog Cangen: Lois Roberts
Ym Mhrifysgol Bangor y cynigir y mwyaf o gyrsiau drwy gyfrwng y Gymraeg, ac mae mwy o’n myfyrwyr yn dewis astudio’u pynciau academaidd drwy’r Gymraeg yma nag yn unrhyw le arall.
Mae Prifysgol Bangor yn cynnig bywyd cyflawn drwy gyfrwng y Gymraeg. Wedi’i lleoli yng nghanol Cymreictod naturiol Gwynedd, mae’r Gymraeg yn rhan annatod o fywyd y Brifysgol ac fe’i siaredir ym mhob cwr o’r ddinas. A chyda chynifer o Gymry Cymraeg a dysgwyr yn dewis astudio yma, ceir bwrlwm cymdeithasol anhygoel ynghyd â llu o weithgareddau cyfrwng Cymraeg. Mae Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor (UMCB) yn ganolbwynt i ran helaeth o’r digwyddiadau a’r gweithgareddau Cymraeg a drefnir.
Yn cyfrannu at y bwrlwm hwn y mae’r neuadd breswyl Gymraeg, Neuadd John Morris-Jones. Mae Neuadd JMJ yn cynnig cyfle arbennig i fyfyrwyr gael byw mewn awyrgylch cwbl Gymraeg.
Lleolir cangen Prifysgol Bangor o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yng Nghanolfan Bedwyr. Mae’n lleoliad canolog a hwylus ac mae croeso i fyfyrwyr alw heibio am sgwrs neu i holi’r staff ynghylch unrhyw agwedd ar astudio drwy gyfrwng y Gymraeg ym Mangor. Ceir yma gyfleusterau modern fel stiwdio fideo-gynadledda’r Coleg, a ddatblygwyd yn bwrpasol ar gyfer addysgu modiwlau ar y cyd â phrifysgolion eraill. Mae’r gangen hefyd yn gweithio’n agos gydag UMCB, er mwyn hysbysu myfyrwyr am weithgareddau’r Coleg.
Cysylltwch â changen Prifysgol Bangor am ragor o wybodaeth: bangor@colegcymraeg.ac.uk / @cangenbangor