Swyddog Cangen: Bethan Wyn Davies
Mae cangen y Drindod Dewi Sant o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi’i lleoli ar gampws y Brifysgol yng Nghaerfyrddin. Mae’r gangen yn un weithgar iawn, gyda mwyafrif staff a myfyrwyr Cymraeg y Brifysgol yn aelodau. Mae swyddfa’r gangen wedi’i lleoli mewn safle canolog ac amlwg ar y campws lle mae modd i fyfyrwyr alw am sgwrs ynghyd â derbyn cyngor a gwybodaeth ar unrhyw adeg.
Mae’r Brifysgol wedi buddsoddi mewn darpariaeth cyfrwng Cymraeg o’r newydd yn ystod y blynyddoedd diwethaf mewn meysydd fel Celf a Dylunio, Astudiaethau Chwaraeon ac Addysg Awyr Agored, Busnes, Plentyndod Cynnar, Gwaith Ieuenctid a Chymuned, Diwinyddiaeth ac Astudiaethau Crefydd, ac mae’r ddarpariaeth yn ehangu.
Mae canran uchel o gyrsiau cyfrwng Cymraeg a dwyieithog y Drindod Dewi Sant yn rhan o Gynllun Ysgoloriaethau’r Coleg, ac yn ychwanegol at hyn, mae’r Brifysgol yn cynnig cyfle i fyfyrwyr ymgeisio am ysgoloriaeth o hyd at £600 y flwyddyn am astudio’u cwrs gradd drwy gyfrwng y Gymraeg.
Cydlynir cymdeithas Gymraeg y Brifysgol gan y myfyrwyr, a threfnir gweithgareddau a digwyddiadau cymdeithasol amrywiol, o deithiau rygbi rhyngwladol i gystadlaethau chwaraeon, ynghyd â’r Eisteddfod Ryng-golegol.
Bu Côr y Drindod Dewi Sant yn hynod lwyddiannus ar lwyfannau eisteddfodol Cymru dros y blynyddoedd, a chynhelir nifer o gyngherddau gyda digonedd o gyfleoedd i berfformio, teithio a chymdeithasu. Yn ogystal â hynny, ffurfiwyd pwyllgor myfyrwyr gan fyfyrwyr y gangen, ac ânt ati i drefnu gweithgareddau amrywiol.
Mae gan y Drindod Dewi Sant gyfleusterau rhagorol; gweithiwyd yn ddiwyd dros y flwyddyn ddiwethaf i godi adeiladau o’r newydd a gwella’r cyfleusterau ar gyfer y myfyrwyr.
Cysyllta â changen Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant am ragor o wybodaeth: ydrindoddewisant@colegcymraeg.ac.uk / @CangenDDS