Swyddog Cangen: Daniel Tiplady
Mae cangen Prifysgol Metropolitan Caerdydd o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn un fywiog a chyfeillgar. O ddigwyddiadau croeso i gigs yn y ddinas, mae’r gangen yn gyfle gwych i fyfyrwyr ddod i adnabod cyd-Gymry Cymraeg y Met.
Mae swyddfa’r gangen wedi’i lleoli ar gampws Cyncoed mewn lleoliad delfrydol, nid nepell o gyfleusterau chwaraeon anhygoel y Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr. Bydd modd i ti felly neidio o’r pwll nofio, neu redeg o Neuadd Athletau Dan Do Cymru, yn syth i’r Undeb am ddiod neu bryd o fwyd iachus.
Mae’r Brifysgol yn cynnig gwasanaethau gyrfaoedd drwy gyfrwng y Gymraeg i fyfyrwyr a graddedigion, gan gynnwys cyfweliadau gyrfaol, cymorth gyda CVs a ffurflenni cais, ynghyd â darlithoedd gyrfaol sy’n trafod chwilio am waith a chynllunio ar gyfer y dyfodol.
Mae’r gangen yn gweithio’n agos gyda’r ‘GymGym’ (Cymdeithas Gymraeg y Brifysgol) er mwyn trefnu cyfleoedd i fyfyrwyr gael cymdeithasu drwy gyfrwng y Gymraeg gyda myfyrwyr o bob cwr o Gymru. Un o ddigwyddiadau mawr blynyddol y gangen yw gig yng Nghlwb Ifor Bach, a drefnir ar gyfer aelodau’r Coleg drwy Gymru benbaladr. Gobeithiwn dy weld yno flwyddyn nesaf!
Cysylltwch â changen Prifysgol Metropolitan Caerdydd am ragor o wybodaeth: metcaerdydd@colegcymraeg.ac.uk / @CangenMetCdydd