Enw llawn: Gwenno Mason Evans
Dod yn wreiddiol: Aberystwyth
Ysgol/Coleg ar gyfer lefel A: Penweddig
Prifysgol: Aberystwyth
Blwyddyn: 1
Cwrs prifysgol: Amaethyddiaeth gyda Gwyddor Anifeiliaid
Pam dewis astudio’r pwnc gradd?
Rwy’n hoff o’r awyr agored ac yn frwdfrydig am weld gwelliant yn y diwydiant amaethyddol.
Pam dewis astudio yn y Gymraeg?
Rwy’n ei gweld hi’n hawdd dysgu yn fy iaith gyntaf a dod i arfer â thermau y gobeithiaf fedru eu defnyddio mewn swydd yn y dyfodol.
Beth yw'r peth gorau am astudio cwrs yn rhannol drwy'r Gymraeg?
Maint y dosbarth. Llai o fyfyrwyr yn y darlithoedd sy’n ei gwneud yn haws i ofyn cwestiynau.
Unrhyw gyngor i ddarpar fyfyrwyr sy'n poeni am astudio drwy'r Gymraeg?
Peidiwch â becso gan fod digon o gymorth ar gael o fewn y Brifysgol, e.e mae pwyntiau pŵer i’w cael yn ddwyieithog.
A fyddech chi'n annog eraill i ymgeisio am ysgoloriaeth y Coleg Cymraeg a pham?
Wrth gwrs! Gall yr ysgoloriaeth helpu’n ariannol a’ch galluogi i wario ar adnoddau astudio megis llyfrau neu gostau byw.
Pam ymgeisio i fod yn llysgennad a beth ydych chi’n edrych ymlaen ato fwyaf?
Buaswn ar goll pe na bawn yn gallu astudio drwy’r Gymraeg ac rwyf yn gwerthfawrogi’r ysgoloriaeth yn fawr. Teimlaf ei bod hi’n bwysig i annog bobl i astudio drwy’r Gymraeg ac i ymuno â’r Coleg Cymraeg.
Beth ydych chi’n ei fwynhau fwyaf am fod yn y brifysgol?
Medru defnyddio’r iaith Gymraeg o ddydd i ddydd a bod pawb yn adnabod ei gilydd.
Diddordebau hamdden?
Hoci, ffermwyr ifanc.
Hoff bethau?
Bacwn
Cas bethau?
Nadroedd.
Hoff raglen / ffilm Gymraeg?
Gwaith Cartref