Enw llawn: Rhys Hedd Pugh-Evans
Dod yn wreiddiol: Aberystwyth
Ysgol/Coleg ar gyfer lefel A: Penweddig
Prifysgol: Prifysgol De Cymru, Pontypridd
Blwyddyn: 2
Cwrs prifysgol: Gwyddorau’r Heddlu
Pam dewis astudio’r pwnc gradd?
Mae gen i ddiddordeb mawr i ymuno â’r Heddlu, felly rwy’n gweld y cwrs gradd hwn fel y ffordd orau i fynd o gwmpas hyn.
Pam dewis astudio yn Gymraeg?
Cymraeg yw fy iaith gyntaf ac felly dwi’n ei gweld hi’n haws ysgrifennu yn y Gymraeg.
Beth yw'r peth gorau am astudio cwrs yn rhannol drwy'r Gymraeg?
Dim ond tua 7 ohonom sy’n astudio drwy’r Gymraeg felly rydyn ym cael mwy o amser 1-ar-1 gyda ein tiwtor.
Unrhyw gyngor i ddarpar fyfyrwyr sy'n poeni am astudio drwy'r Gymraeg?
Dim byd i boeni amdano o gwbl; mae llawer o’m cyd-fyfyrwyr yn genfigennus nad ydynt yn gallu astudio drwy’r Gymraeg!!
A fyddech chi'n annog eraill i ymgeisio am ysgoloriaeth y Coleg Cymraeg a pham?
Yn bendant. Mae’n beth gwych fod y ddarpariaeth yna i allu astudio modiwlau drwy’r Gymraeg, ac mae’n fonws enfawr bod ysgoloriaeth ar gael i wneud hynny!!
Pam ymgeisio i fod yn llysgennad a beth ydych chi’n edrych ymlaen ato fwyaf?
Edrcyh ymlaen i fod yn gwyneb a llais i’r Coleg Cymraeg ac i annog darpar fyfyrwyr i ymuno â’r Coleg Cymraeg.
Beth ydych chi’n ei fwynhau fwyaf am fod yn y brifysgol?
Bod yn agos i ffrindiau ysgol a theulu.
Diddordebau hamdden?
Chwarae pêl-droed, mynd i’r theatr a’r sinema.
Hoff bethau?
Unrhyw beth yn ymwneud â chwaraeon.
Cas bethau?
Corynnod
Hoff raglen / ffilm Gymraeg?
C’mon Midffîld
Unrhyw wybodaeth ddiddorol arall amdanoch?
Mae pawb yn fy adnabod fel “Hedge”
Ro’n i arfer bod yn ddiffoddwr tân ac yn aelod o’r RNLI fel criw ar y bad achub
Fi oedd llais Smot y ci ar CD-Rom SAIN pan oeddwn tua 10 oed
Mae Hedd Wyn yn perthyn yn bell i mi (hen, hen, hen, hen wncwl)!